Mae’r cerddor o Wynedd, Ifan Rhys, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Oes na Fwy’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Ifan Rhys, sy’n gweld y cerddor yn cwestiynu, gan hefyd gynnig blas o’r hyn sydd i ddod.
Ar ôl adeiladu presenoldeb o fewn y sîn Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf mae Ifan wedi gwneud enw iddo’i hun wrth chwarae gydag artistiaid Cymreig fel Y Niwl, Elis Derby a Maes Parcio yn ogystal â llwyth o waith sesiwn a chyfansoddi caneuon.
Yn gyfarwydd i rai efallai fel basydd a chanwr y band Orinj, bu iddo ryddhau ei EP unigol, ‘Hadau’, yng Ngorffennaf 2024 cyn mynd ymlaen i gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yn y flwyddyn honno.
Mae Ifan wedi bod yn brysur yn gigio ac yn rhannu blas o’i waith newydd drwy ei senglau llynedd, sef ‘Casglu Cwsg’ a ‘Nol a Mlaen’.
Pennod nesaf
Ar ei sengl newydd, mae Ifan yn datblygu ar ei sŵn ac yn rhoi blas o’r bennod nesaf wrth iddo dreulio dechrau’r flwyddyn yn recordio.
Wedi ei ysbrydoli gan artistiaid megis Mac DeMarco a King Kruel mae Ifan yn defnyddio rhain i greu sŵn cyfarwydd ond defnyddio ei safbwynt unigryw i greu traciau newydd a bachog.
Mae Ifan wedi bod yn recordio yn ddiweddar efo’r cynhyrchydd Alaw, sydd hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth drwy’r un label ag Ifan, sef INOIS. Fe gychwynnodd y ddau recordio draw ym Manceinion, ac yna’n gynharach eleni draw yn stiwdio Sain.
Mae Ifan yn sôn fod ei gerddoriaeth yn ffordd o allu cofnodi ei fywyd, megis dyddiadur.
“Dwi’n defnyddio cerddoriaeth fel dyddiadur bron, mae gallu parhau i sgwennu traciau a’u perfformio yn ffordd o gadw cofnod o’r hyn sy’n digwydd yn fy mywyd” meddai