Mae Carwyn Ellis yn gyfarwydd iawn â chyd-weithio gydag artistiaid eraill, boed fel aelod o fand Edwyn Collins neu gyda’r brosiect Carwyn Ellis & Rio 18.
Ond mae’r sengl ddiweddaraf mae’r cerddor yn ymddangos arno’n brosiect sy’n cael ei arwain gan dri cherddor o America sydd wedi bod yn aelodau o fandiau amlwg, sef Joey Waronker (Beck, Oasis), Luke Reynolds (Sharon Van Etten, Regina Spektor) & Zac Rae (Death Cab For Cutie).
‘Caru Caru’ ydy enw’r trac, ac yn ôl Carwyn, mae’n tybio mai dyma’r gân Gymraeg gyntaf i’w rhyddhau gan artistiaid Americanaidd.
Daeth y cyfle i gydweithio wedi i Carwyn dderbyn neges gan Luke Reynolds yn dweud ei fod yn hoffi ei gerddoriaeth, gan nodi y byddai’n braf i allu cyd-weithio yn y dyfodol. Daeth demos gan Luke yn ddiweddarach o ganeuon ar y cyd a’i ffrindiau Zac a Joey. Yn ddiweddarach aeth Carwyn ati i ysgrifennu a chanu’r geiriau ar gyfer dwy gân sydd ar yr albwm sef ‘Caru Caru’ a ‘Bywyd Arall’.
‘Proof’ ydy enw’r albwm llawn, sydd allan ar 3 Ebrill.
Dyma ‘Caru Caru’: