Mae’r pianydd Gwenno Morgan wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘The Sky is You’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi.
Yn ogystal â’r brif fersiwn, mae fersiwn gerddorfaol o’r trac gan The European Recording Orchestra wedi’i rhyddhau.
Mae’r sengl allan ar y llwyfannau digidol arferol.