Mae dathliad Croeso Cyngor Abertawe yn dychwelyd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi, gyda’r digwyddiadau ‘Croeso x Nightworks’.
Mae’r digwyddiad yn cynnig rhaglen fywiog o gigs dwyieithog, gyda mynediad am ddim ar draws lleoliadau llawr gwlad y ddinas.
Bydd y digwyddiad yn dechrau ar nos Wener 27 Chwefror gyda noson o post-pync a roc amgen yn lleoliad The Bunkhouse gyda’r band Slate.
Grŵp pedwar aelod o Gaerdydd ydy Slate sy’n ail-ddychmygu sylfeini gothig new-wave, gan wefru eu sain â grym melodig ac angerdd post-pync. Cafodd eu senglau cyntaf, “Tabernacl” a “St Agatha“, ganmoliaeth yn yr NME, Clash, So Young, DIY a mwy, yn ogystal ag ar y radio gan Huw Stephens a Steve Lamacq ar BBC 6Music, a Jack Saunders ar BBC Radio 1.
Mae adfer hunaniaeth Gymreig, a chariad at farddoniaeth sydd wedi’i blethu yn eu perfformiadau byw, yn ddylanwadau sy’n cyflwyno Slate fel artistiaid diddorol ac angenrheidiol.
Yn ymuno â Slate mae Los Blancos a’u roc slacyr melodig, y pedwarawd roc-amgen VAIN, a Pypi Slysh, prosiect 6 aelod Sam Stevens a Siôn Teifi Rees o Geredigion sydd hefyd yn cynnwys aelodau o Mellt a Slate.
Ar nos Sadwrn 28 Chwefror bydd gig ar y cyd gan Twat Union a HMS Morris yn lleoliad yr Elysium.
Grŵp pync a chomedi ffeministaidd ydy Twat Union sy’n dod â’u hiwmor nodweddiadol, pryfoclyd a’u sioe gynhwysol i Abertawe fel rhan o’u taith o’r DU.
Mae HMS Morris yn fand sy’n ffynnu ar groesffordd celf-bop, theatrigrwydd ac archwilio di-ofn. Mae eu perfformiadau byw bythgofiadwy wedi’u harwain ledled y byd – o Texas i Tokyo a Toronto, ac i lwyfannau Gŵyl Green Man, Glastonbury, Other Voices a llawer mwy.
Yn ymuno â nhw ar y noson hefyd fydd The Nanaz a’u harddull pync wedi’i ysbrydoli gan X-Ray Spex, a pop swnllyd Flatcat.
Gyda’r nos ar y 1 Mawrth, bydd Gwilym Bowen Rhys yn chwarae sioe acwstig arbennig yn Nhŷ Tawe.
Yn chwarae cyn Gwilym bydd Llio Heledd, cerddor o Dreforys, Abertawe yn wreiddiol. Astudiodd yn Aberystwyth ac Utrecht a bellach mae’n byw yng Nghaerdydd. Yno, dechreuodd gyfansoddi caneuon gyda’r gitâr, a cheisio’r gynghanedd. Gwelir defnydd o’r modd hynafol yma o farddoniaeth Gymraeg yn ei chaneuon ac yn ei sengl gyntaf “Afon” sy’n adlewyrchiad ar brofiad o fagwraeth Gymraeg yn Abertawe fel plentyn ifanc.
Mae pob gig yn rhad ac am ddim i fynychu, ond mae modd sicrhau eich lle trwy archebu tocynnau am ddim trwy lwyfannau’r lleoliadau neu drwy ymweld â www.croesobaeabertawe.com
Mae’r rhaglen Croeso x Nightworks yn rhan o ddigwyddiad Croeso ehangach Cyngor Abertawe, gŵyl sy’n dathlu popeth Cymreig. Yn ogystal â’r rhaglen gerddoriaeth fyw, bydd arddangosiadau coginio, diddanwyr stryd, gweithdai, celf a chrefft a llwybr i blant ar draws canol dinas Abertawe rhwng dydd Sadwrn 28 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth.