Tocynnau cynnar Sesiwn Fawr 2026 ar werth

Mae tocynnau cyntaf, sydd ar werth am bris rhatach am y tro, ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau ar werth nawr. 

Mae’r ŵyl flynyddol a gynhelir ar strydoedd tref Dolgellau yn ôl eto eleni, a’r don gyntaf o artistiaid eisoes wedi’i chyhoeddi gydag artistiaid o Gymru, Glasgow, Ghana a thu hwnt. 

Penwythnos 16 – 19 Gorffennaf ydy dyddiad yr ŵyl eleni.

Gyda thocynnau rhatach ar werth yn lleol am y tro cyntaf, y gobaith yw gwneud cerddoriaeth fyw o Gymru a’r byd mor hygyrch ag erioed.

 Ymysg mawrion y sîn werin fydd yn ymddangos yn 2026 mae Ar Log, sy’n dathlu eu hanner canmlwyddiant ar hyn o bryd. Bydd yr ŵyl hefyd yn croesawu’r ddeuawd boblogaidd, Elin a Carys, yn ogystal ag artistiaid sy’n gwthio ffiniau gwerin fel An Dannsa Dub, Yoko Pwno a’r grŵp newydd, Mwsog.

Bydd gwerthiant tocynnau yn cael ei lansio yn Tŷ Siamas, Dolgellau rhwng 10 a 2 ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror. Dyma’r tro cyntaf iddynt gael eu cynnig am bris gostyngedig i unrhyw un all ddod i Dolgellau i’w prynu. 

Bydd tocynnau penwythnos yn cael eu rhyddhau ar-lein ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar gael ar wefan yr ŵyl.

“Mae’r Sesiwn yn tynnu pobl ac artistiaid o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ond mewn cyfnod o gostau byw uchel mae mor bwysig ag erioed gwneud cerddoriaeth fyw a’r celfyddydau mor hygyrch a chynhwysol â phosib i bawb, yn arbennig trigolion lleol ardal yr ŵyl” meddai Ywain Myfyr, sef cadeirydd pwyllgor y Sesiwn, ac un o sylfaenwyr yr ŵyl. 

 “Dwi a’r tîm o wirfoddolwyr yn gobeithio gweld rhai o selogion yr ŵyl a rhai sy’n newydd i’r Sesiwn yn dod draw i Tŷ Siamas dydd Sadwrn i fachu’r tocynnau arbennig yma.”

Mae’r Sesiwn yn adnabyddus am roi llwyfan i artistiaid lleol i ddatblygu a hawlio eu lle o fewn sîn gerddoriaeth gyfoes Cymru. 

Un enw sy’n prysur ddod i’r amlwg ydi Martha Elen a berfformiodd yn fyw am y tro cyntaf yn y Sesiwn Fawr y llynedd. Bydd Martha nôl eleni i berfformio ar brif lwyfan yr ŵyl yng nghefn gwesty’r Ship.

“Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn ŵyl sy’n rhoi llwyfan i fandiau mwyaf adnabyddus y sîn Gymraeg, tra hefyd yn cefnogi artistiaid newydd ar gychwyn eu gyrfaoedd” meddai Martha wrth drafod ei phrofiad o’r ŵyl. 

“Ges i gefnogaeth wych gan y Sesiwn llynadd a derbyn fy nghynnig gig cyntaf erioed gan yr ŵyl. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gael mynd nôl i Ddolgellau i berfformio eleni ac i gael mwynhau awyrgylch anhygoel Sesiwn Fawr”.

Gadael Ymateb