Y Ddelwedd yn rhyddhau eu sengl gyntaf

Mae’r band a gipiodd deitl cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025, Y Ddelwedd, wedi ryddhau eu sengl gyntaf.

Gan dyfu o wreichion band Yr Ogs, mae Y Ddelwedd yn ffrwyth llafur prosiectau tanllyd Y Gwallgofiaid / CellB, Blaenau Ffestiniog.

Llynedd, y nhw ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ac eleni maent wedi bod yn recordio EP yn Stiwido Sain gyda’r cynhyrchydd Ifan Emlyn (Candelas) dan faner Recordiau SBENSH. 

Roedd Y Ddelwedd yn un o’r bandiau oedd yn cael eu hargymedd fel rhai i’w gwylio yn ystod 2026 gan Olygydd cylchgrawn Y Selar, Gruffudd ab Owain.

‘O’r Blaen’ ydy enw’r sengl gyntaf o’r EP  a fydd allan fis Mehefin. 

Sŵn retro a nostaljig

Mae’r trac newydd gan Y Ddelwedd  yn cyfuno deallusrwydd gitâr indi ffync y 1990au gydag alawon breuddwydiol a chofiadwy. 

Er difrodedd y geiriau, mae’r gân yn felys ac yn llwyddo i’ch dyrchafu i ryw stad ysgafn braf.

Mae’r prif leisydd, Hari Emlyn, yn gawr o bresenoldeb ar lwyfan, ac Enlli Jones yn fêl i’r wead lleisiol.

Mae Owen Jones yn athrylith ar y gitâr flaen, gydag Eban Davies yn cynnig rhythmau diymhongar ar yr ail gitâr.

Isaac Parsons ar y bas, a drymiau Cian ‘Clinc’ Roberts sy’n gyrru’r cwbl ymlaen. 

“Mae ’na deimlad 90au go iawn i sŵn Y Ddelwedd, ond mewn ffordd retro a nostaljig” meddai Gai Toms o Recordiau SBENSH.  

“Mae’n ffresh, amrwd a chyffrous, a’r deallusrwydd a’r gallu cerddorol yn amlwg iawn. Mae Recordiau SBENSH yn falch iawn o roi hwb iddynt ar eu taith gerddorol. Diolch hefyd i Gronfa Cerddoriaeth PYST am y gefnogaeth.” 

Dyma’r fdeo ar gyfer ‘O’r Blaen’:

 

Gadael Ymateb