Newid lleoliad Bangor Slot Selar

Am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, rydym wedi gorfod newid lleoliad cymal Bangor o daith gyntaf ‘Slot Selar’.

Fe fydd y gig rŵan yn digwydd yng nghlwb Base, sydd ar stryd fawr Bangor. Mae’r clwb yn leoliad gwych ar gyfer gigs, ac yn ddiweddar iawn fe gafwyd gig arbennig o dda yno gyda’r Race Horses, We Are Animal ac eraill yn perfformio yno.

Cofiwch ddod i Base ar nos Wener 1 Gorffennaf felly – 8pm tan hwyr!