Rydan ni’n falch iawn i ddatgelu’r amserlen llwyfan ar gyfar Gwobrau’r Selar wrth i’r cyffro ynglŷn â’r noson fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth gynyddu.
Mae’r digwyddiad yn agor am 5pm gyda sesiynau acwstig yn y ‘Stiwdio’ sydd ar lawr uchaf Canolfan y Celfyddydau (wrth ymyl Theatr y Werin). Casi Wyn fydd yn agor yr arlwy cyn i Gildas a Kizzy Crawford berfformio. Cofiwch hefyd am set DJ cyntaf erioed Gramcon fydd yn digwydd rhwng yr artistiaid.
Yna, am 8pm bydd y gerddoriaeth yn symud i’r Neuadd Fawr, sydd ar brif lawr y ganolfan. Yr Eira fydd yn agor y llwyfan ac Yr Ods fydd yn cloi. Bydd y gwobrau’r cael eu cyflwyno rhwng y bandiau, gyda Crash.Disco! yn llenwi pob bwlch gyda’i synau swynol. Yr Ods fydd yn cloi y digwyddiad, a’r cyfan yn dod i ben tua 1am.
Dyma’r amserlen lawn isod – mae’n mynd i fod yn un dda ffrindiau.
Amserlen Gwobrau’r Selar
5:00-8:00 – Stiwdio Canolfan y Celfyddydau
5:20 – Casi Wyn
6:20 – Gildas
7:20 – Kizzy Meriel Crawford
* Gramcon DJ set rhwng artistiaid
8:00 – 1:00 – Neuadd Fawr
8:10 – Yr Eira
9:00 – Bromas
9:50 – Sŵnami
11:00 – Candelas
12:15 – Yr Ods
* Cyflwyno Gwobrau a Crash.Disco DJ set rhwng bandiau