Pump i’r Penwythnos 02 Rhagfyr 2016

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rai bywiog o ran gigs a rhyddhau cynnyrch newydd. Does ‘na ddim gymaint o gynnyrch newydd allan yr wythnos hon, ond mae digon o gigs. Dyma ddetholiad Y Selar o uchafbwyntiau cerddorol y penwythnos….

Gig: Yr Eira, Fleur de Lys, Chwalfa – Galeri, Caernarfon. Sadwrn 3 Rhagfyr

Mae ‘na swp o gigs bach diddorol y penwythnos yma gan gynnwys rhai bach neis gyda Mr Huw yn Nhafarn y Fic Llithfaen a hefyd Alys Williams a Rhys Gwynfor yn noson 4 a 6 yng Nghaernarfon heno (nos Wener).

Neu beth am awyrgylch fach wahanol wrth i Huw M berfformio yn delicatessen Snails yng Nghaerdydd nos Sadwrn, gyda bwffe’n ran o’r pris mynediad?

Mae Griff Lynch hefyd yn gwneud gig tebyg yn y Sunken Hundred yn Efrog Newydd os ydach chi’n ffansio hediad fach dros yr Iwerydd!

Mae ‘na hefyd gwpl o gigs mwy, gan gynnwys y chwip o lein-yp sydd yng Nghlwb Ifor Bach heno – Sŵnami, Mellt a Ffracas, sy’n gwneud y gig cyntaf yn y De.

Ond ein dewis ni yr wythnos hon ydy’r arlwy sydd yng Ngaleri Caernarfon nos Sadwrn.

Cân: ‘Nadolig Alcoholig’ – Hanner Pei

Ydy, mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto ma arna’i ofn…yr adeg yna pan mae llu o ganeuon Nadoligaidd doji’n ymddangos yn y gobaith o sicrhau payday blynyddol am fis i’r cyfansoddwyr.

Fe wnawn ni drio osgoi rhain gymaint â phosib, ond rhag i ni ddechrau swnio’n rhy bah hymbygaidd, well i ni roi sylw i gwpl o senglau Nadolig sydd wedi’u rhyddhau’n fuan.

Mae Mei Gwynedd yn rhyddhau ei gynnig Nadoligaidd ar ffurf deuawd gyda phlant ysgol Treganna – ma’ hon yn cyd-fynd i’r dim â’r ddelwedd gyffredin o gân Nadolig gawslyd gyda’r enw hynod wreiddiol ‘Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda’.

Ond, y gân Nadoligaidd sy’n cael ein prif sylw ni yr wythnos hon ydy ‘Nadolig Alcoholig’ gan Hanner Pei – nid cân newydd ydy hon, ond mae hi ar gael i’w lawr lwytho ar Bandcamp Hanner Pei am y tro cyntaf yr wythnos yma. “Nadolig, Nadolig Alcoholig. Shambolig, shambolig pan dwi on it” …clasur.

Artist: Radio Rhydd

Dyma chi fand sydd wedi creu cryn gyffro mewn rhai cylchoedd yn y gorffennol, ond sydd wedi bod yn reit dawel yn ddiweddar.

Difyr oedd gweld pump o draciau’n ymddangos ar eu ffrwd Soundcloud yr wythnos yma, gan godi’r gobeithio am EP newydd gan y grŵp o ochrau Bethesda.

Rhaid oedd holi mwy, ond yn ôl y grŵp does dim cynlluniau i ryddhau unrhyw beth yn ffurfiol yn y dyfodol agos er eu bod nhw’n dal i weithio’n raddol ar albwm. Mae’r traciau yma wedi eu recordio yn Stiwdio Un yn Rachub gyda thîm heb ei ail wrth y llyw – San Durrant yn peiriannu a Gwyn Maffia’n cynhyrchu.

Er bod Radio Rhydd yn cael eu labelu’n ddiog gyda tag ‘grŵp pync’, mae ‘na amrywiaeth ymysg y traciau gan gynnwys y diwn ska ffynci ‘Cariad a Chymuned’.

Y gân drymach ond ddigon melodig ‘Croeso i’r Apocolypse’ a’i rap cofiadwy ydy’n ffefryn ni o’r casgliad.

Record: Bore Da – Euros Childs

Gyda chymaint o recordiau newydd yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau diwethaf, mae’n awgrym o record yr wythnos wedi bod yn gyfoes iawn yn ddiweddar!

Cyfle am chenj a rhywbeth bach o’r archif yr wythnos yma felly! Mae albwm diweddaraf un o artistiaid mwyaf cynhyrchiol a gwych Cymru, Euros Childs allan wythnos nesaf, a gallwch rag-archebu Refresh nawr ar wefan Euros.

Pa esgus gwell i dynnu copi o’i ail albwm unigol a’i unig un cyfan gwbl Gymraeg, Bore Da, oddi ar y silff a chwythu’r llwch oddi-ar y clawr felly.

Dyma un o albyms gorau’r ddegawd diwethaf heb os gyda thiwns gwefreiddiol fel ‘Henry a Matilda Supermarketsuper’, ‘Blaidd Tu Fas Y Drws’ a’r hyfryd hyfryd (ia, mae’n haeddu’r ddau ‘hyfryd’) ‘Roedd Hi’n Nofio Yn Y Bore Bach’.

Ac un peth arall…:: Rhestr goreuon 2016 From the Margins

Rydan ni’n hoff iawn o flog ardderchog ‘From the Margins’ sy’n weithgar iawn yn adolygu digwyddiadau byw a chynnyrch Cymreig.

Yr wythnos hon mae’r blog wedi llunio rhestr o uchafbwyntiau cerddoriaeth a chomedi sydd wedi eu hadolygu ar y blog yn 2016, ac mae’n werth bwrw golwg dros y detholiad.