Mae’r grŵp o’r canolbarth, Bwca, wedi rhyddhau sengl newydd fel rhan o ymdrech i brynu tafarn gymunedol yng Ngheredigion.
Mae criw o gymuned Dyffryn Aeron yng nghanol Ceredigion wedi penderfynu mynd ati i geisio codi arian er mwyn prynu Tafarn y Vale ym Mhentref Felinfach, gan ei hagor fel tafarn gydweithredol sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned.
Maent yn gobeithio codi £330,000, yn bennaf trwy werthu cyfranddaliadau i unigolion, grwpiau neu fusnesau lleol. Mae modd prynu gwerth rhwng £200 a £30,000 mewn cyfranddaliadau.
Nawr, fel rhan o’r ymdrech i gefnogi’r ymgyrch, mae Bwca, sy’n cael eu harwain gan y cerddor Steff Rees, wedi rhyddhau sengl newydd gydag elw’r gwerthiant yn mynd tuag at brynu siârs yn y dafarn.
Bywyd yn fêl
‘Lawr yn y Vale’ ydy enw’r trac newydd, ac mae modd ei brynu’n ddigidol am 99c.
Os fydd rhai yn teimlo bod rhywbeth cyfarwydd am y gân yna mae rheswm da am hynny gan mai fersiwn gyda geiriau newydd o’r gân ‘Lan yn y Gen’ gan Bwca ydy hi, fel yr eglura Steff.
“Gwnaeth un o griw yr ymgyrch gysylltu i ofyn os oedd siawns i Bwca wneud clip bach o hyrwyddo’r ymgyrch a’r syniad cynta ddaeth i’r meddwl oedd i wneud rhyw fath o sbŵff o’r gân ‘Lan yn y Gen’ sy’n sôn am (dafarn) y Llew Du yn yr ail hanner.
Newidiwyd geiriau’r gân wreiddiol o “yn y Llew Llew Llew fydda i’n go lew” i’r fersiwn newydd “yn y Vale Vale Vale bydd bywyd yn fêl, a cafodd clip bach ‘rwff’ ei ffilmio a rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yr ymgyrch.
“Roedd yr ymateb yn dda iawn felly penderfynais, ‘wel, man a man newid gweddill y geiriau’ a’i neud mewn i ryw fath o sengl fach i dynnu sylw at y cynllun a gobeithio codi bach o arian i brynu siârs a helpu gwireddu’r nod” meddai Steff.
Roedd Bwca’n awyddus i gefnogi’r ymgyrch gan eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion y criw i wneud i rywbeth ddigwydd yn y eu cymuned, gan hybu diwylliant yn yr ardal yn ôl Steff.
“Pam fod Bwca mor barod i helpu? Mae’r syniad o bobl yn torchi’u llewys a ffindio ffordd greadigol i wella’u cymuned a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymreig yn bwysig iawn i fi. Felly pan ddaeth yr alwad i wneud rhywbeth o’n i’n fwy na hapus i helpu.”