Ar ddechrau 2020, bu Cowbois Rhos Botwnnog yn teithio Cymru i nodi deng mlynedd ers rhyddhau eu hail albwm, ‘Dyddiau Du Dyddiau Gwyn’.
Nawr, mae’r band yn barod i ryddhau albwm sy’n cynnwys rhai o’r caneuon a berfformiwyd ar ddyddiad olaf y daith yn y Galeri, Caernarfon ar 6 Mawrth 2020.
Nid dyma oedd y gig olaf o’r daith i fod cofiwch – roedd hyn oll yn digwydd ar drothwy’r Clo Mawr, a bu’n rhaid gohirio’r dyddiad olaf yn Aberteifi – cyngerdd sydd o’r diwedd wedi ei ail-drefnu ar gyfer 2 Rhagfyr 2023 eleni.
Gyda’r band ar fin rhyddhau eu pumed albwm stiwdio yn gynnar yn 2024, dyma gyfle i ail ymweld â rhai o’r hen ganeuon, yn cynnwys ambell ffefryn byw sydd i’w clywed ar record am y tro cyntaf.
Bydd yr albwm byw yn cael ei ryddhau ar ffurf CD ar 17 Tachwedd.
Mae’n cynnwys y traciau ‘Llanw Ucha’ Erioed’, ‘Tyrd Olau Gwyn / Ymlaen Mae Canaan’ a hefyd ‘Y Moch / Malu’r Ffenestri’ sydd allan yn ddigidol ers wythnos diwethaf ar safle Bandcamp Cowbois Rhos Botwnnog.
Bydd yr albwm byw yn cael ei ryddhau ar label Sbrigyn Ymborth gyda nifer cyfyngedig o CDs ar gael mewn gigs ac ar dudalen Bandcamp y band.
Traciau albwm Yn Fyw! Galeri Caernarfon
- Y Ffenast
- Malu’r Ffenestri
- Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn
- Gan Fy Mod i
- Ffarwel i Langyfelach Lon
- Lle’r Awn i Godi Hiraeth
- Yno Fydda i
- Y Lon
- Sy’n Dân o’n Blaenau
- Cân y Capten Llongau
- Ymlaen Mae Canaan
- Llanw Ucha’ Erioed
- Tyrd Olau
- Gwyn
- Cychod
- Wil a Mer
- Y Moch