Cynhaliwyd gŵyl Lleisiau Eraill yn ardal Aberteifi ar benwythnos 26-28 Hydref ac roedd camerau Lŵp, S4C yno i ddal y gorau o’r gerddoriaeth oedd i’w glywed.
Darlledwyd rhaglen uwchafbwyntiau ar sianel deledu S4C ddiwedd mis Tachwedd gyda Huw Stephens yn cyflwyno.
Bellach mae fideos o berfformiadau arbennig gan Adwaith, Cerys Hafana, The Joy Formidable, Sans Soucis a Colm Mac Com Iomaire ymysg eraill i’w gweld ar sianel YouTube Lŵp hefyd.
Dyma un o Adwaith yn perfformio ‘Sudd’: