FRMAND yn ymuno â hwyl y Steddfod gyda’i drac ‘Maes B’

Mae’r cynhyrchydd electronig o Langrannog, FRMAND, wedi ymuno â hwyl yr ŵyl gyda’i sengl newydd i gydfynd â’r Eisteddfod Genedlaethol.

‘Maes B’ ydy enw’r trac diweddaraf gan FRMAND sydd allan ar label y cynhyrchydd, sef Recordiau BICA.

Fel mae enw’r trac yn ei awgrymu, mae’r gân yn un sydd wedi’i chyfansoddi’n arbennig ar ar gyfer gŵyl gerddoriaeth a safle ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol, Maes B.

Dyma’r trac ‘house’ diweddaraf gan FRMAND a bydd cyfle i glywed y gân yn cael ei chwarae’n fyw yn ystod set y cynhyrchydd ar lwyfan DJs Maes B eleni ar nos Sadwrn 12 Awst.