Mae’r ddeuawd canu gwlad poblogaidd, Gethin Fôn a Glesni Fflur, wedi rhyddhau eu halbwm newydd .
‘Nice One Cyril’ ydy enw ail albwm y ddeuawd sydd wedi cael ei ryddhau ar label Recordiau Maldwyn.
Dyma albwm llawn straeon am bobl a’u byw a’u bod, ym mlerwch cariad a cholled i eiliadau tynner wrth i ddau gariad gyfnewid record. Mae yma rychwant o gyfeiliant cynnes Americana-aidd i roc canu gwlad pwerus, a llond sdafell o gerddorion amryddawn wedi cyfranu tuag ati.
Rhyddhawyd y senglau ‘Jerry’ a ‘Helo’ eisoes yn 2023 fel tameidiau i aros pryd. Yn wir, roedd 2023 yn flwyddyn lle gwelwyd Gethin a Glesni yn rhyddhau sengl newydd ar ddydd Sul olaf bob mis ar raglen John ac Alun, BBC Radio Cymru.
Mae Gethin Fôn a Glesni Fflur wedi hen ennill eu plwy fel deuawd canu gwlad, gan werthu dros 1,000 copi o’u halbwm cyntaf, ‘Talsarn’.
Maent i’w gweld yn aml ar Noson Lawen, S4C, yn cynnal nosweithiau ar hyd a lled y wlad, a hyd yn oed wedi perfformio mewn ambell leoliad yn Wyoming, UDA.