Albwm cyntaf Tai Haf Heb Drigolyn

Mae’r band arbrofol sydd wedi gwreiddio ym Machynlleth, Tai Haf Heb Drigolyn, wedi rhyddhau eu halbwn cyntaf.

Ein Albwm Cyntaf Ni ydy’r enw priodol iawn ar record hir gyntaf y grŵp lo-fi Tascam ac mae’n cynnwys 11 o draciau fydd ar gael yn ddigidol ac ar ffurf casét nifer cyfyngedig. 

Cafodd Ein Albwm Cyntaf Ni ei recordio dros gyfnod o flwyddyn mewn tair stiwdio gartref wahanol, sef Stiwdio Brynteg, Radio Dyfi ac Ogof Llyfnant. 

Tai Haf Heb Drigolyn ydy Izak Zjalic, Simon Richards a William P Jones. 

Dechreuodd  Tai Haf Heb Drigolyn yn ystod y cyfnod clo wrth i Izak ddarganfod pa fath o endid yr hoffai ryddhau cerddoriaeth drwyddo. Yn gweithredu trwy safbwynt wleidyddol, mae enw’r prosiect yn cysylltu gyda’r drafodaeth eang am ail gartrefi a gododd yn ystod haf 2020.

Rhoddodd Izak y gorau i’r prosiect wrth iddo ddod yn ddi-ffocws, a phenderfynu canolbwyntio ar ei brosiect cerddorol arall, Sachasom, gan lwyddo i ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. 

Er hynny, roedd Tai Haf Heb Drigolyn yn dal i fragu yn y cefndir, ac fe atgyfodwyd y prosiect yn dilyn sgwrs rhwng Izak a Simon, sef drymiwr y prosiect hip-hop skylrk, yn ystod Eisteddfod 2022. Tynnwyd Will Jones i mewn yn ddiweddarach, ac roedd Tai Haf Heb Drigolyn yn ôl! 

Symbol o lawenydd

Mae’r palet sain a’r geiriau yn amrywiol ar draws yr albwm newydd. Cân gitâr lo-fi yw’r trac agoriadol ‘Crancod’ gyda chrescendo synth brawychus o blentyndod sy’n dod â’r gwrandäwr i mewn i’r seinwedd hudolus, tra bod traciau fel ‘Tegan’ a ‘Mach GP’ yn dod â theimlad o dynerwch a melyster. 

Cenir lleisiau gan y tri aelod (Simon: ‘Crancod’, ‘Rhif 5’, ‘Ionawr’, ‘Books’), (Will: ‘Siwgr’, ‘Gapelwrs’, ‘Blawd’, ‘Colli Llygaid’, ‘Blawd’), (Izak: ‘Rhif 5’, ‘Mach GP’, ‘Arafcore’), yn bennaf yn yr iaith Gymraeg. Ymhlith y themâu telynegol mae trafodaeth ar ddioddefaint dynol, iselder a chaethiwed ar ‘Crancod’, ‘Ionawr’, ‘Rhif 5’ a ‘Books’; yr ocwlt yn gorfodi amheuaeth ar ‘Siwgr’;  ac adlewyrchiadau o dirwedd gerddoriaeth gyfoes Cymru ar ‘Gapelwrs’. 

Recordiwyd traciau rhwng cyfuniad o Ableton a chasét, gyda’r defnydd o’r Tascam Portastudio 424 ar gyfer gweadau anghyson ac ansawdd lo-fi. 

Mae’r albwm yn symbol o lawenydd ethos cerddoriaeth DIY ar y cyd sy’n cofleidio amherffeithrwydd a damweiniau hapus, wrth iddo gael ei ysgrifennu, ei drefnu a’i gynhyrchu gan y tri aelod. 

Bydd casetiau ar gael sy’n cynnwys ‘cover’ unigryw wedi’i ychwanegu at bob un. Gellir archebu’r rhain ymlaen llaw a’u prynu ar Bandcamp. 

Mae’r albwm allan ar label Pendrwm ac ar gael ar Bandcamp Tai Haf Heb Drigolyn nawr. 

Dyma’r trac ‘Ionawr’ o’r casgliad: