Mae’r band roc poblogaidd o’r 1990au, Celt, wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf.
‘Newydd’ ydy’r enw priodol ar y record hir sydd allan ar label Sain.
A hwythau yng nghanol haf prysur o gigio, mae’r albwm yn nodi 35 mlynedd ers i Celt ryddhau eu record gyntaf, ‘Da ’Di’r Hogia’’, yn 1989 a 15 mlynedd ers eu halbwm diwethaf ‘Cash is King’.
Gwibiodd y blynyddoedd heibio a bu Celt yn brysur yn rhyddhau cerddoriaeth ac yn gigio ar hyd yr amser, ac mae dau o’r aelodau gwreiddiol yn dal yn rhan o’r band – Steven Bolton a Barry ‘Archie’ Jones.
Ymunodd Martin Beattie yn y blynyddoedd cynnar a daethpwyd i adnabod sain gerddorol Celt fel roc a baledi hwyliog ac apelgar gyda harmoni Steven Bolton a Martin Beattie yn taro deuddeg. Dyma’r tro cyntaf ers rhyddhau’r EP ‘Telegysyllta’ ar label Sain yn 2001 i Steven a Martin ganu gyda’i gilydd ar recordiad.
Camodd Barry ‘Archie’ Jones yn ôl o berfformio’n fyw gyda’r band am gyfnod, oherwydd ymrwymiadau eraill, ond wrth gymryd lle aelod arall mewn un gig, cafodd ei synnu gan ymateb y dorf i’r caneuon.
“Ddaru gweld ymateb y dorf roi’r fath wefr i mi nes i ail ymuno yn llawn amser a sgwennu’r gân ‘Modd i Fyw’ am y profiad” meddai Barry.
“Es i ati wedyn i sgwennu gweddill y caneuon ar gyfer yr albwm”.
Yn ymuno ag Archie, Steven a Martin ar y caneuon newydd mae Sion Richards (bas), Dion Hughes (drymiau) Sion Bayley a Neil Roberts (gitârs) a Huw Smith ar yr allweddellau, gyda nifer o westeion eraill – Euron Jones ar y pedal dur, Steffan Harri ar yr acordion, John Doyle ar y gitâr, Edwin Humphreys ar y sacs, Pwyll ap Siôn ar yr allweddellau, ac Eleri Fôn a Malan Fôn ar y lleisiau cefndir.
Daw’r albwm yn dilyn sengl fel tamaid i aros pryd a ryddhawyd ym mis Mehefin, ‘Yr Esgus Perffaith’.
Mae gweddill caneuon yr albwm hefyd yn cadw’n driw i sain unigryw y band ac mae sain hafaidd yn llifo drwyddynt gyda gitâr 12 tant yn flaengar iawn.
Mae rhai caneuon yn deyrngedau i gyfeillion agos i’r band – mae ‘Milwyr Olaf Maes y Gad’ wedi ei sgwennu fel teyrnged i chwaraewr bas gwreiddiol Celt, y diweddar Robat Henri Jones, a’r gân ‘Requiem’ yn ymateb i glywed y newyddion am farwolaeth y cynhyrchydd Les Morrison, un fu mor ganolog yn hanes y band. Mae trefniant arbennig o’r gân olaf i Les ei chyfansoddi, ‘I’m Just a Girl’ yn ymddangos ar yr albwm hefyd, gyda Eleri Fôn yn ymuno i ganu arni.
Mae ‘Newydd Fydd yr Iaith’ yn gân am rywun sydd yn gorfod newid ei ffordd a dewis llwybr gwell mewn bywyd, a phan mae hynny’n digwydd mae gonestrwydd fel iaith newydd iddo, tra bod ‘Tyfu ar Goed’ yn cyfeirio at y ffaith bod pobl Bethesda a Dyffryn Ogwen i’w cael ym mhob rhan o’r byd ac Archie wedi cael y profiad o daro i mewn i nifer ohonyn nhw mewn sawl gwlad wahanol ar hyd y blynyddoedd!
Bydd Celt yn perfformio yn nifer o wyliau mawr a phoblogaidd Cymru dros yr haf, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau penwythnos diwethaf, Tafwyl yr wythnos flaenorol, Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddechrau Awst a Sioe Môn.
Mae’r albwm ar gael ar y llwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener diwethaf, 19 Gorffennaf, a bydd fersiwn Cd yn dilyn cyn diwedd mis Gorffennaf.
Dyma’r trac ‘Newydd Fydd yr Iaith’ o’r albwm: