Al Lewis yn rhyddhau ‘Cariad Bythol’

Mae Al Lewis wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener 12 Gorffennaf. 

‘Cariad Bythol’ ydy enw’r trac newydd gan y canwr-gyfansoddwr cynhyrchiol, ond dyma’i sengl gyntaf gyda’r band ers bron i bedair blynedd. 

Dyma gân sy’n trafod perthynas hirdymor a sut mae’r cariad hwnnw’n newid gydag amser. 

“Dyma’r sengl gyntaf gennyf i a’r band ers 3 mlynedd a hanner” eglura Al Lewis. 

“Gafodd ei sgwennu dros y cyfnod clo rhyngtho fi ag Arwel Lloyd Owen (Gildas). 

“Ma ’na gwpl o gerddorion gwadd yn ymuno efo ni ar y sengl yma, Rhodri Brooks (Melin Melyn) ar y pedal ddur, Richard Llewellyn (Dom / Cartoon) ar y mandolin a Marged Sïon efo lleisiau cefndirol.”

Bydd Al Lewis yn ymddangos yn Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Eisteddfod Genedlaethol dros yr haf cyn mynd ar daith pum lleoliad ym mis Hydref.