Eden yn rhyddhau ‘Y Llun yn fy Llaw’

Mae Eden yn parhau â’u comeback llwyddiannus wrth ryddhau eu sengl ddiweddaraf. 

‘Y Llun yn fy Llaw’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan trwy label Recordiau Côsh. 

Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn fawr i Eden. Fe gyhoeddwyd eu halbwm cyntaf ers chwarter canrif, sef ‘Heddiw’, a hynny i groeso mawr. Enillodd caneuon ‘Heddiw’ eu plwyf yn syth gyda chynulleidfa eang y Clwydesi gyda’u themâu o garedigrwydd, hunanwerth a dewrder.

Ar ôl blwyddyn o gigs bythgofiadwy a chyngerdd yn Pontio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn goron ar y cyfan, i gloi’r flwyddyn arwyddocaol yma mae Non, Emma a Rachael wedi ei mwynhau, mae ‘Y Llun yn fy Llaw’ yn anrheg arall gan y triawd. 

Mae hon yn gân sy’n gwerthfawrogi gwir gyfeillgarwch, y chwerthin a’r dagrau, yr uchelfannau, gwaelodion tywyll a’r cariad oesol rhwng ffrindiau agos.

Caryl Parry Jones sydd wedi cyfansoddi’r trac i’r band sydd hefyd yn digwydd bod yn ffrindiau triw iddi hi ac mae hi wedi ymuno â’r tair i’w chanu. 

Bydd pob un sydd wedi cael y fraint o brofi cyfeillgarwch ddofn yn uniaethu â’r ‘Llun yn fy Llaw’ a hwyrach yn gwerthfawrogi’r berthynas werthfawr honno ychydig yn fwy ar ôl ei chlywed.