Mae Worldcub wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Suddo Tonnau’, ers dydd Gwener 15 Tachwedd.
Rhyddhawyd y sengl ar y llwyfannau digidol arferol ar label y band ei hun, Recordiau Ratl Records.
Yn ôl y band, mae’r sengl newydd yn gyfuniad arbrofol o syniadau wedi eu hysbrydoli gan yr artistiaid Juana Molina a Deerhoof.
Daw’r sengl yn dilyn rhyddhau albwm o’r enw Back To The Beginning yn gynharach yn y flwyddyn a gafodd lawer o sylw gan sioe Deb Grant ar BBC 6 Music, yn ogystal â rhaglen BBC Introducing ar Radio Wales a Radio Cymru.
Cafodd yr albwm adolygiadau cadarnhaol iawn gan gynnwys marc 8.5/10 gan Backseat Maffia, a 4/5 gan SHINDIG! Magazine, yn ogystal â geiriau positif iawn gan Louder Than War a Buzz Magazine.
Mae Worldcub yn fand sydd wedi ei sefydlu gan y brodyr Cynyr a Dion Hamer. Yn ddiweddar ymunodd Jasmine Roberts a nhw ar y gitâr a Calvin Thomas, yn ail-ymuno â’r band ar y gitâr fas. Roedd Calvin yn aelod gwreiddiol o’r band ers eu dyddiau’n perfformio dan yr enw CaStLeS.
Gyda dylanwad McCartney o’r 70au/80au a DIY ‘Fantastic Man’, William Onyeabor, maent yn cynhyrchu deunydd o’u stiwdio gartref ar fryniau Eryri, gan gyfuno elfennau o gerddoriaeth gitâr syrffio, cerddoriaeth roc seicedelic gyda grwf kraut-roc a harmonïau lleisiol hypnotig.
Cafodd eu halbwm cyntaf ‘Fforesteering’ sylw ar lwyfannau mawr fel The Guardian ac UNCUT, yn denu sylw BBC Radio 6 Music, BBC Radio 1, BBC Radio Wales a Chymru. Enillodd y band fomentwm yn fyw hefyd, gan ennill eu slot cyntaf ar lwyfan BBC Introducing yng Ngŵyl Reading & Leeds, yn ogystal â pherfformiadau nodedig yn Liverpool Sound City, Liverpool Psych Fest, BreakOut West yng Nghanada a cefnogi Public Service Broadcasting ar y prif lwyfan yn FOCUS Wales.