Gŵyl y Castell – gŵyl newydd i Aberystwyth

Bydd gŵyl newydd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 14 Medi. 

Gŵyl y Castell ydy enw’r digwyddiad newydd a gynhelir, fel mae’r enw’n ei awgrymu, yng Nghastell Aberystwyth. 

Er bod hon yn ŵyl newydd, fe fydd yn dwyn atgofion i nifer o ŵyl gerddoriaeth Castell Roc a gafodd ei chynnal ar dir y castell am rai blynyddoedd, y tro olaf yn 2009. 

Yn ôl y trefnwyr, gŵyl deuluol ydy hon gyda gweithgareddau’n cael eu cynnal trwy’r dydd rhwng 10am a 9pm. 

Bydd nifer o berfformiadau cerddorol yn ystod y dydd a bydd rhai o artistiaid cyfoes amlycaf Cymru’n perfformio yn ystod y prynhawn. Bydd yr enwau hynny’n cynnwys y band lleol, Bwca, ynghyd â Band Pres Llareggub, Mellt a Bwncath. 

Mae’r ŵyl yn cael ei chefnogi gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth ymysg eraill. Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. 

Amserlen prif fandiau Gŵyl y Castell:

14:45 – Bwca

16:00 – Band Pres Llareggub

18:15 – Mellt

19:30 – Bwncath