Buddug yn rhyddhau ‘Unfan’ fel sengl

Mae un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous y sin ar hyn o bryd, Buddug, yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf sydd allan ar label Recordiau Côsh. 

‘Unfan’ ydy enw’r trac newydd sydd allan gan yr artist addawol. 

Mae ‘Unfan yn ddilyniant i sengl gyntaf Buddug, ‘Dal Dig’, a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2023, ac yna ei hail sengl, ‘Two Way Street’, a laniodd ym mis Ionawr eleni

Cafodd yr artist ifanc o Frynrefail Eisteddfod wych ym Mhontypridd wrth iddi ymddangos mewn tri gig llwyddiannus ei hun yn ogystal â bod yn westai arbennig yn ystod setiau Yws Gwynedd. 

Mae llwyddiant ei sengl gyntaf, ‘Dal Dig’, wedi bod yn aruthrol, gyda dros 30k o ffrydiau yn barod a hefyd wedi denu cryn dipyn o sylw’r diwydiant yn cynnwys cael ei chwarae ar sioe BBC 6 Music Huw Stephens.

Mae Buddug wedi bod yn brysur yn ysgrifennu a recordio mwy o gerddoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf, yn rhoi band at ei gilydd i berfformio’r caneuon yn fyw yn ogystal â chyflawni ei arholiadau lefel A. 

Mae ei sioeau byw, oedd yn cynnwys perfformiad yn Tafwyl eleni hefyd, wedi hoelio ei lle fel un o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru ac yn ôl ei label, ‘Unfan’ yw’r dilyniant perffaith i ‘Dal Dig’, gyda mwy o gerddoriaeth i ddod yn fuan. 

I gyd-fynd â rhyddhau’r sengl, mae Lŵp, S4C, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ‘Unfan’ sydd i’w weld ar eu llwyfannau digidol arferol nawr. Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu a chyfarwyddo gan Elis Derby. 

Dyma’r fideo: