Rhyddhau albwm cyntaf Gwcci

Mae’r band hip-hop o’r Brifddinas, Gwcci, wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ddiweddar a bellach wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf. 

 Gafr ydy enw’r record hir newydd sydd allan ar label Recordiau Bica, ac sydd ar gael ar yr holl lwyfannau digidol arferol. 

Yn ôl y label mae ‘Gafr’ yn albwm arloesol sy’n arddangos ystod drawiadol a chreadigedd Gwcci. Mae’r albwm yn cynnwys cymysgedd o rap, hip-hop, 1980au, 2000au, a genres clasurol, gan fynd â gwrandawyr ar daith gerddorol unigryw. 

Mae’r casgliad yn cynnwys caneuon poblogaidd fel ‘Canna’ a Fideo Cerddoriaeth y Flwyddyn yn Gwobrau Selar 2023, ‘Hotel’ yn ogystal â thraciau a glywyd am y tro cyntaf yn ddiweddar ‘Anweledig’ a ‘Camu,’ ar ymddangosiad ar Radio’r BBC. 

Bydd ffans Gwcci hefyd yn mwynhau traciau newydd, unigryw fel ‘Elfen’ a ‘Clwb’ – yr ail o’r rhain yna yn talu teyrnged i’r eiconig Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.

Yn ogystal ag argaeledd digidol, mae copïau caled o ‘Gafr’ hefyd ar werth, gan gynnwys cynnwys unigryw a geiriau ar gyfer pob cân.

Mae rhyddhau ‘Gafr’ gan Gwcci yn dilyn blwyddyn aruthrol o gerddoriaeth a llwyddiannau gan y band, o’u cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru ar gyfer cân swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd 2023 a fideo cerddoriaeth ‘I’r Gad’ i berfformiadau gwefreiddiol yn rhai o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, gan gynnwys Eisteddfod 2023 ym Moduan.

Dyma fideo Gwcci: