Sengl gyntaf Cyn Cwsg ar label Lwcus T

‘Gwranda Frawd’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi glanio gan y band cyffrous, Cyn Cwsg. 

Mae’r sengl allan ar eu label newydd, Lwcus T.  

Yn hanu o Ogledd Cymru, dyma ydy trydedd sengl y band pum-aelod Cyn Cwsg. Mae’n ddilyniant i’r traciau blaenorol ganddynt ‘Asgwrn Newydd’ a ‘Lôn Gul’, ddaeth allan fel sengl-ddwbl ar label UNTRO ddechrau’r flwyddyn. 

Gan edrych tua chyfeiriad artistiaid fel The Beach Boys a Whitney – heb anghofio dylanwad yr anfarwol, Gorky’s Zygotic Mynci – mae’r trac yn mynd ar ôl y broses chwerw felys o dyfu ac yn cyfleu’r teimlad chwithig hwnnw o orfod gadael i bethau fynd – mewn ffydd y daw nhw nôl yn well ac yn iachach. Wedi iddynt weithio gyda’r cynhyrchydd, Sywel Nyw, ar ddechrau’r flwyddyn, Krissy Jenkins (Gruff Rhys, Cate le Bon) fu’n cynhyrchu’r trac diweddaraf yn ei stiwdio yn Grangetown, Gaerdydd. 

Mae’r cynnig diweddaraf gan Cyn Cwsg yn datblygu ar drefniannau chwareus a churiadau cysglyd eu senglau cyntaf. 

“Oedd ffeindio’r tir canol ‘na rhwng cysur a melancoli yn ’wbath o’n i’n trio ei gyrradd, ac oedd ‘na lot o ddylanwadau yn hynny o beth – o Boy Azooga i Steve Eaves i feirdd fel Siôn Eirian ac Iwan Llwyd” eglura’r prif leisydd a’r gitarydd, Tomos Lynch. 

“Mewn gwirionedd, ma hi’n gân reit syml sy’n mynd i’r un cyfeiriad â’r caneuon i ni ryddhau ddechra’r flwyddyn, ond ma hi’n sicr yn teimlo’n lot fwy byw – efo asgwrn cefn y trac wedi’i recordio yn hollol fyw – heblaw am yr harmonica, gath honna ei adio wrth i ni fusnesu rownd y stiwdio tra oedd Krissy wedi mynd allan am smoc!”

Dyma fideo ar gyfer ‘Gwranda Frawd’ sydd wedi’i greu gan Aled Victor: