Ar ôl iddi ryddhau ei sengl gyntaf gyda’r label yn ddiweddar, mae Betsan bellach wedi rhyddhau ei hail sengl ers ymuno â label Recordiau Côsh.
‘Hedd i’r Byd’ ydy enw’r trac newydd gan y cerddor a chyfansoddwr profiadol ac mae allan ers dydd Gwener 6 Rhagfyr. Daw’r sengl ddiweddaraf fis yn unig ar ôl iddi ryddhau ei chynnyrch cyntaf ar Côsh, sef y sengl ‘Rhydd’ a laniodd ar 1 Tachwedd.
Mae ‘Hedd i’r Byd’ yn ei hanfod yn ymwneud â heddwch — nid yn unig ar y ddaear, ond hefyd heddwch meddwl.
Mae’r trac yn cyfuno thema heddwch byd-eang gyda diolchgarwch diffuant am y cariad a’r gefnogaeth mae Betsan wedi ei dderbyn gan y bobl sydd agosaf ati.
Ysgrifennwyd y gân hon dros gyfnod o 25 mlynedd. Egin y gân oedd dilyniant o gordiau syml a chytgan a gyfansoddodd Betsan pan oedd hi’n 18 oed. Wedi’i hysbrydoli gan gewri o gerddorion fel The Beatles a Carole King, roedd gan Betsan uchelgais fawr, ond yn ystod yr un cyfnod roedd hi hefyd yn dod allan, ac roedd hunan amheuaeth a’r ofn o fod yn wirioneddol hi ei hun yn ei dal yn ôl.
Am flynyddoedd, treuliodd oriau yn strymio’r gytgan ar y soffa, gan freuddwydio am y sain epig yr oedd hi eisiau ei greu, ond ni allai ddod o hyd i’r geiriau cywir. Ond yn y pendraw, a hynny’n ystod cyfnod trawsnewidiol yn ei bywyd, daeth y penillion yn fyw.
Mae ‘Hedd i’r Byd’ allan ar yr holl lwyfannau digidol arferol, gydag EP i ddilyn yn fuan yn y flwyddyn newydd.