‘Yn yr Eira’ – sengl Nadolig Angharad Rhiannon

Artist sy’n gyfarwydd am ei chaneuon Nadolig ydy Angharad Rhiannon, ac mae ganddi gynnig arall ar gyfer 2024.  

 ‘Yn yr Eira’ ydy enw’r sengl Nadoligaidd ddiweddaraf gan y ferch o Rondda Cynon Tâf, ac mae’n dilyn y caneuon Nadolig blaenorol ganddi, sef ‘Mae Santa ar ei Ffordd’ a ryddhawyd yn 2021 ac ‘Un Nadolig’ yn 2023.  

Does dim ystyr cudd i’r gân hon yn ôl Angharad – mae’n gân am adeiladu, chwarae a joio yn yr eira. Rhywbeth mae Angharad wrth ei bodd yn gwneud o hyd.  

“Pan o’n i’n blentyn, doedd na ddim byd gwell na diwrnod eira go iawn lle chi’n cael lapio’n gynnes i fynd mas i chwarae” meddai Angharad.  

“Roedd cyffro diwrnod eira fel dim byd arall. Os oedd yr ysgol yn cau oherwydd eira, roedd hi fel parti mawr! Dyna dwi’n trio cyfleu yn y gân hon. Y cyffro, y diniweidrwydd, y llawenydd.” 

Mae Angharad wedi mwynhau blwyddyn gyffrous arall yn gerddorol. Rhai uchafbwyntiau oedd perfformio gyda Bronwen Lewis eto, rhyddhau EP o ganeuon am ei hardal leol, perfformio yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd, bod yn rhan o albwm feinyl Y Selar, a rhyddhau’r gân ‘Laru’ sydd dal i fod yn ffefryn mewn gigs.