Solas – rhyddhau EP Talulah

Mae Talulah wedi rhyddhau EP newydd sydd allan ar label I KA CHING.

Solas ydy enw’r record fer newydd sy’n ddilyniant i’r senglau Galaru’, ‘Slofi’ a ‘Byth yn Blino’.

Mae’r prosiect yn cyfuno synau a chanu meddal ac etheraidd gyda gweadau o jazz a percussion

Yr hyn sydd wrth wraidd ‘Solas’ yw myfyrdodau Talulah ar berthnasoedd pŵer, yn ogystal â’r ymgais fyd eang i adfywio ieithoedd lleiafrifol. Mae Talulah yn gwneud hynny trwy chwarae rhwng cysyniadau o olau a thywyllwch, yn eiriol ac yn gerddorol. 

“Dw i wrth fy modd yn chwarae ‘fo harmonïau glittery a’u cyd-osod ‘fo geiriau sy’n trafod perthnasau, queerness a thyfu’n gyffredinol,” eglura Talulah. 

“Gad i mi grio’ ydi’r darn pwysicaf i fi ar yr EP. Mae’n trafod rhywun sydd eisiau rhoi eu oll i rywun arall, er nad ydi o’n teimlo’n dda nac yn iach. Mi gyfansoddes i hon ar y piano, cyn i mi hyd yn oed roi lle i fi fy hun brosesu fy mhrofiadau personol.”

Cyfansoddwyd holl gerddoriaeth a geiriau’r EP gan Talulah, ac fe gafodd ei chynhyrchu a’i chymysgu gan Llŷr Pari a’i mastro gan Iwan Morgan. 

Dyma’r trac agoriadol, ‘Suo’:

Gadael Ymateb