Y Dail ac Ynys yn rhannu Gwobr Neutron

Dau fand Cymraeg oedd cyd-enillwyr gwobr amgen y wefan gerddoriaeth God is in The TV Zine

Gwobr Neutron ydy enw’r wobr mae God is in The TV yn ei ddyfarnu’n flynyddol fel eu hateb amgen i’r enwog Wobr Mercury. 

Datgelwyd rhestr fer y wobr eleni ar ddechrau mis Medi, gyda phedwar o artistiaid Cymraeg neu ddwy-ieithog yn ymddangos ar y rhestr honno. Ac wrth gyhoeddi’r enillydd ar 16 Medi, daeth i’r amlwg bod dau o’r artistiaid hynny i rannu’r wobr eleni sef Y Dail ac Ynys. 

Bu i’r wefan gerddoriaeth sydd â gwreiddiau Cymreig dathlu 20 mlynedd o fodolaeth llynedd, ac maent yn dyfarnu Gwobr Neutron ers sawl blynedd bellach. Er hynny, dyma’r tro cyntaf i ddau artist rannu’r wobr. 

Er mwyn nodi’r achlysur bydd God is in The TV yn cynnal ‘takeover’ gan y ddau artist ar ddydd Iau 26 Medi, gyda llwyth o gynnwys amdanyn nhw. 

Dewiswyd y ddau fand o’r rhestr fer o ddeuddeg record a ryddhawyd gan artistiaid o Brydain dros y deuddeg mis diwethaf. 

Y Dail – “wrth fy modd yn llwyr”

Y Dail ydy’r prosiect sy’n cael ei arwain gan y cerddor ifanc o Bontypridd, Huw Griffiths. Yn ôl God is in the TV mae ei albwm cyntaf, ‘Teigr’, yn esiampl ardderchog o ysgrifennu pop gydag allweddellau gwichlyd o’r 80au a gitârs buzzy, sy’n cael ei gefnogi gan eiriau storïol clyfar a swreal, ynghyd â melodi llon. 

“Rydw wrth fy modd yn llwyr i ennill ymysg cymaint o artistiaid gwych” meddai Huw wrth God is in The TV. 

“Dechreuais recordio caneuon gyda Kris Jenkins pan ro’n i yn yr ysgol, ac fe wnaeth pobl fel Marc Riley godi ein caneuon cynnar a [fe wnaeth pethau] jyst cario ymlaen.

“Mi wnes i ysgrifennu’r caneuon rhwng oedrannau 15 ac 18 mewn rhyw fath o ymchwydd o greadigrwydd, yn fy ystafell welly ar gitâr Sbaenaidd. Felly am wn i gallech ddweud bod y record yn rhyw fath o bildungsroman – mae ‘na rhyw naws twymynol pan dwi’n edrych yn ôl nawr, ac mae hynny’n rhoi ychydig o syndod i mi.”

“Golygu lot” i Ynys

Ynys ydy’r band sy’n cael ei arwain gan y cerddor profiadol o Aberystwyth, Dylan Hughes, gynt o’r Race Horses a Radio Luxembourg. 

Rhyddhawyd ei ail albwm, Dosbarth Nos, ar label Recordiau Libertino ac mae’n gam mawr ymlaen mewn egni o’i record gyntaf hunan-deitlog.

“Neutron Prize, allai ddim cweit credu’r peth!” meddai Dylan wrth ymateb i’r newyddion.

“Mae’n anrhydedd – diolch i bawb a bleidleisiodd, a diolch i God is in the TV Zine am eu holl gefnogaeth anhygoel, mae’n golygu lot.”

Bill Cummings ydy golygydd God is in the TV Zine ac roedd yn fwy na hapus i rannu’r wobr eleni. 

“Roedd tîm golygyu God is in the TV wedi eu hysbrydoli gan benderfyniad y Booker Prize i rannu’r wobr yn 2019. Fel rydych yn gwybod, rydym yn uchelael iawn” meddai Cummings gyda thafod yn moch.

“Ar wahan i hynny, yn syml iawn roedd yn amhosib i wahanu’r ddau albwm ardderchog yma felly fe wnaethon ni benderfynu i wobrwyo’r ddau!”

Y rhestr fer lawn oedd: 

Bob Vylan – Humble As The Sun

Camera Obscura – Look To The East

Look To The West, Chroma – Ask for Angela

Bill Ryder-Jones – Iechyd Da

Elkka – Prism of Pleasure

Enjoyable Listens – Trapped in the Cage of a Hateful Bird

Georgia Ruth – Cool Head

L E M F R E C K – Blood, Sweat & Fears

SPRINTS – Letter to Self

Whitelands- Night-bound Eyes Are Blind To The Day

Y Dail –  Teigr

Ynys- Dosbarth Nos