Taith Angel Hotel

Bydd y band o Gaerdydd, Angel Hotel, yn cynnal cyfres o gigs o amgylch y Deyrnas Unedig ganol mis Chwefror eleni. 

Bydd y daith yn gweld y band yn ymweld â lleoliadau yn Birmingham, Llundain, Darwen, Stafford, Caerdydd ac Abertawe. 

Bydd prif ran y daith yn digwydd dros bum niwrnod rhwng 12 Chwefror a 17 Chwefror – bydd y gig cyntaf yn y Sunflower Lounge, Birmingham ar 12 Chwefror cyn i’r wythnos o gigs gloi yng nghanolfan gelf yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd ar 17 Chwefror. 

Bydd yna gig ychwanegol ganddynt ar 1 Mawrth, sef hwnnw yn lleoliad y Bunkouse yn Abertawe. 

Angel Hotel ydy prosiect diweddaraf y cerddor adnabyddus Siôn Russell Jones sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth dan ei enw ei hun yn y gorffennol, a hefyd fel rhan o’r ddeuawd Ginge a Cello Boi.

Fe ddaethon nhw i’r sylw gyntaf yn 2021 gyda’u fersiwn o ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’ gan y Super Furry Animals. Ymunodd y band â label Recordiau Côsh ar ddechrau 2022 gan ryddhau’r sengl ‘Superted’ ar y label ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Maen nhw wedi rhyddhau senglau pellach ers hynny gan gynnwys ‘Oumuamua’ a ‘Rumpy Pumpy’. 

 

Rhestr dyddiadau llawn y daith:

12 Chwefror – Sunflower Lounge, Birmingham

13 Chwefror – The New Cross Inn, Llundain

15 Chwefror – Sunbird Records, Darwen

16 Chwefror – The Dog House, Stafford

17 Chwefror – Yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd

1 Mawrth – Bunkhouse, Abertawe