Trac tren Al Lewis

Mae Al Lewis wedi wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 11 Ebrill.

‘Train Song’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y cerddor poblogaidd, ac mae’n enw priodol iawn o ystyried y gyfres o gigs mae ar fin dechrau arni. 

Dehongliad Al yw hi o gân gan yr artist gwerin chwedlonol, Vashti Bunyan a ddaeth allan fel sengl yn wreiddiol yn 1966.

 Yn ymddangos ar y trac yn ogystal ag Al ei hun, mae’r delynores fyd-enwog, Catrin Finch a’r cerddor amryddawn, Patrick Rimes (ffidil a harmoniwm) gyda chefnogaeth gan CJ Jones ar y dryms ac Iestyn Jones ar y bas dwbl.

Mae’r sengl yn rhagflas o’r hyn ellir ei ddisgwyl ar daith unigryw Al, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, wrth iddo ymweld â threfi a dinasoedd ar hyd rhwydwaith rheilffyrdd godidog Cymru ym mis Mai.

Gyda 2025 yn dynodi 200 mlynedd ers sefydlu’r rheilffordd fodern, bydd Al nid yn unig yn ymweld â rhannau newydd o’r wlad, ond hefyd yn gwneud defnydd o ddull mwy amgylcheddol a chymdeithasol o deithio, gan ddangos sut y gall cerddorion wneud eu rhan i leihau ôl troed carbon.

Bydd Al yn dod â’i gyfuniad o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg i leoliadau cyfareddol fel y Neuadd Ercwlff ym Mhortmeirion ac Eglwys syfrdanol Sant Tudno ar ben y Gogarth yn Llandudno. 

Mae’r daith yn dilyn cyfres hynod lwyddiannus o sioeau gan Al dros gyfnod y Nadolig lle gwerthwyd pob tocyn ar gyfer lleoliadau ledled Cymru o’r Galeri yng Nghaernarfon i ddwy noson yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd.

Cafodd albwm diweddaraf Al, ‘Fifteen Years’, ganmoliaeth eang ar draws y BBC a gorsafoedd a chyhoeddiadau ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau lle edrychodd ar themâu o alar ac iachâd drwy ei brofiad ei hun o ddechrau ymdopi â cholli ei dad wrth obeithio helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Taith Trenau Al Lewis Train Tour

26.04.25 – Theatr Soar, Merthyr Tydfil

01.05.25 – Bryn Williams @ Porth Eirias 

02.05.25 – Eglwys St Tudno, Llandudno

03.05.25 – Canolfan Ucheldre, Caergybi 

08.05.25 – Clwb y Bont, Pontypridd

09.05.25 – Saith Seren, Wrecsam (rhan oFOCUS Wales)

10.05.25 – Portmeirion, Gwynedd 

15.05.25 – Oriel Mission, Abertawe 

16.05.25 – Eglwys St Augustine, Penarth 

17.05.25 –  Institute, Llanfair Caereinion  

22.05.25 – Peppers, Abergwaun 

23.05.25 – CWRW, Caerfyrddin 

24.05.25 – Amgueddfa Dinbych-y-Pysgod a The Big Retreat Festival Lawrenny

29.05.25 – Wynnstay, Machynlleth 

30.05.25 – The Art Shop & Chapel, Y Fenni