Mae dau artist o Ddyffryn Nantlle wedi dod ynghyd i ryddhau sengl newydd sydd allan ar label INOIS.
‘Gwyrddlas’ ydy enw’r trac newydd gan Alaw sy’n ei gweld yn cydweithio gyda’r rapiwr enigmatig, skylrk.
Dyma’r ddilyniant i’r sengl ‘Respite’ a ryddhawyd gan Alaw fis diwethaf – ei sengl gyntaf ers rhyddhau ‘Before I Go / Be Seeing U’ nôl yn 2022. Mae’r cynhyrchydd o Ddyffryn Nantlleyn ôl y tro hwn gyda thrac arall o’r byd sonig, myfyriol.
Yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau arbrofol rhai blynyddoedd yn ôl, aeth Alaw ymlaen i chwarae yng Ngŵyl Sŵn, Tafwyl gan hefyd ymddangos ar raglen Curadur S4C a derbyn sylw gan BBC Radio Cymru, Radio Wales a BBC 6 Music.
Mae ‘Gwyrddlas’ yn ddatblygiad cyffrous ar sain cynnar Alaw a hefyd yn cynnwys llais amrwd y rapiwr skylrk., sef prosiect Hedydd Ioan.
“Dwi mor falch i allu cydweithio ar drac o’r diwedd efo Alaw” meddai Hedydd Ioan wrth drafod y sengl.
“Ers clywed ei cherddoriaeth am y tro cynta’ o ni’n gwybod bod rhaid cydweithio ar rywbeth a dwi’n meddwl fod ‘Gwyrddlas’ yn gymysgedd gwych o steil y ddau ohona’ ni, a bendant wedi gwthio fi i geisio ysgrifennu rhywbeth newydd.”
Mae’r trac allan ers dydd Gwener 23 Mai, gyda’r fideo sy’n cyd-fynd – wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos PYST x S4C – i ddilyn yr wythnos ganlynol.