Rhyddhau albwm diweddara’ Carwyn Ellis & Rio 18

Mae albwm diweddaraf Carwyn Ellis & Rio 18 allan ers dydd Gwener diwethaf, 23 Mai. 

‘Fontana Rosa’ ydy enw’r casgliad newydd, a dyma ydy pumed albwm y prosiect sy’n cael ei arwain gan y cerddor profiadol a chynhyrchiol, Carwyn Ellis. 

Mae’r albwm ar gael ar y llwyfannau digidol arferol ynghyd ag ar fersiwn feinyl nifer cyfyngedig, ac mae hefyd nifer cyfyngedig iawn o gopïau ar gael i’w prynu ar ffurf casèt. 

Recordiwyd yr albwm yn bennaf yn Stiwdio Toerag yn Llundain, gyda’r cynhyrchydd Liam Watson. Mae’n debyg mai dyma un o’r recordiadau olaf yn y stiwdio analog cyn iddo caeu ei ddrysau. 

Mae’r albwm allan ar label Légère Recordings. 

Dyma’r trac sy’n cloi’r albwm, ‘Deffro’r Dydd’: