Albwm newydd Carwyn Ellis a Rio 18 ar y ffordd fis Tachwedd

Mae prosiect Carwyn Ellis & Rio 18 yn paratoi i ryddhau’r sengl ‘Tonnau ar y Tonnau’, ynghyd ag albwm newydd y band i ddilyn mewn ychydig wythnosau.

Daw’r sengl newydd o’r albwm ‘Haf’ a fydd allan ar 14 Tachwedd ar label Bubblewrap Records.

Bydd yr albwm allan ar ffurf caled yn unig ar y diwrnod hwnnw, gyda’r sengl ‘Tonnau ar y Tonnau’ yr unig flas o’r albwm fydd ar gael yn ddigidol am y tro, allan ar yr un dyddiad. 

Bydd yr albwm llawn yn dilyn ar ffurf ddigidol ar Bandcamp ar 20 Chwefror. 

Gan barhau â’u cyfuniad unigryw o eiriau Cymraeg a rhythmau Brasil, mae ‘Haf’ yn dathlu cynhesrwydd, golau a chysylltiad cerddorol ar draws sawl cyfandir gwahanol. 

Mae’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Tonnau Ar Tonnau’, yn talu teyrnged i synau lliwgar Brasil o’r 70au, yn enwedig i’r eiconig, ‘Onda’ (Ton) gan Cassiano. Wedi’i recordio gyda grŵp o gerddorion eithriadol o Frasil, mae’r gân yn rhoi egni newydd i synau cyfarwydd y cyfnod hwnnw. 

Wrth gymysgu’r albwm yn Rio de Janeiro, dysgodd y cynhyrchydd Kassin am ddylanwad Cassiano ar Ellis ac, mewn cyd-ddigwyddiad perffaith, cysylltodd â’r chwaraewr bas gwreiddiol (Paulo César Barros) sy’n ymddangos ar ‘Onda’. O fewn yr awr, ymunodd Barros â’r sesiwn – gan ddod â blas arbennig o hanes cerddoriaeth Brasil i’r recordiad.

Mae’r trac hefyd yn cynnwys llais llawn enaid Miriam Isaac, sef yr unig berfformiwr arall nad yw’n dod o Frasil i ymddangos ar y trac. 

Bydd Carwyn Ellis & Rio 18 hefyd yn perfformio sioe arbennig ar 15 Tachwedd yn The Gate, Caerdydd, sef eich cyfle cyntaf i gael gafael ar yr albwm newydd sbon, a gwrando ar y traciau’n fyw. Mae’r tocynnau ar werth nawr. 

Gadael Ymateb