Mae Mei Emrys ac Elidyr Glyn wedi ffurfio partneriaeth ar gyfer rhyddhau sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 24 Hydref.
‘Hen’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd sydd wedi’i ryddhau ar label Recordiau Côsh.
Yn dilyn synau indi-pop bachog, ‘Mae Hi Isio Bod Ei Hun’ ddaeth allan ar ddechrau’r haf, dyma’r ail gân i Mei ei rhannu eleni.
Mae Elidyr Glyn bellach wedi hen ennill ei blwyf fel un o leisiau mwyaf adnabyddus y sin gerddoriaeth yng Nghymru ag yntau’n brif-leisydd y band roc-gwerin poblogaidd, Bwncath.
‘Hen’ yw’r trac cyntaf i Elidyr gyfrannu ato ers i albwm diweddaraf ei fand, ‘Bwncath III’ (Sain), weld golau dydd ym mis Mai.
Ar ôl cyd berfformio ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau, rai blynyddoedd yn ôl, a recordio fersiwn byw arbennig o’r gân ‘Pen y Byd’ ar gyfer rhaglen Heno S4C, dyma’r tro cyntaf i Mei ac Elidyr weithio gyda’i gilydd yn y stiwdio.
Fel holl ganeuon unigol Mei, Rich Roberts oedd yn gyfrifol am recordio a chynhyrchu ‘Hen’, yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.