Aleighcia Scott yn rhyddhau ‘Fade Away’ ar Côsh

Mae Aleighcia Scott wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Fade Away’, sef trac ‘lovers rock’ modern sy’n cyfuno ei gwreiddiau reggae gydag egni ffres.

Wedi’i gynhyrchu gan Dubtanian, a’r ddelweddaeth wedi’u creu gan y cyfarwyddwr Yasnaps, mae’r trac yn gweld Aleighcia yn symud yn ôl i’r Saesneg wedi iddi ryddhau dwy sengl Gymraeg yn ddiweddar.

“Ar gyfer y trac yma, roeddwn i wir eisiau cael sain ‘lovers rock’ hen ffasiwn gyda sain ‘new school’ – gan gyfuno’r ddau arddull wrth gadw’r naws traddodiadol fel y sylfaen” eglura Aleighcia.

Gadael Ymateb