Pwdin Reis a Winwns Coch

Mae’r band rockabilly hwyliog, Pwdin Reis, yn ôl gyda sengl newydd, ‘Winwns Coch’ . 

Pwdin Reis ydy’r casgliad o gerddorion profiadol Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).

“Odi chi erioed wedi cael eich dympio gan gymar?” hola’r band.

 “Perthynas yn datgymalu a chariad yn chwalu’n racs? Mae’n deimlad ofnadwy sydd wedi digwydd ar ryw adeg i ni gyd. Torri calon sydd yn gwneud i chi grio – dyma’r neges sydd i eiriau cân newydd Pwdin Reis, ‘Winwns Coch’.”

Yn debyg i arddull cerddorol nodweddiadol y band, mae ‘Winwns Coch’ eto’n dilyn arddull rockabilly heintus sy’n eich gorfodi i ddawnsio. Dyma drac amrwd, amgen ac egnïol. 

 

Gadael Ymateb