Cate Le Bon yn rhyddhau ‘Is It Worth It (Happy Birthday)?’

Wrth iddi baratoi i ryddhau ei halbwm nesaf, mae Cate Le Bon wedi rhyddhau ei sengl newydd.

‘Is It Worth It (Happy Birthday)?’ ydy enw’r blas diweddaraf a gawn o’r albwm ‘Michelangelo Dying’.

Mae hefyd fideo i gyd-fynd â’r sengl newydd sydd wedi’i gyfarwyddo gan H. Hawkline.

Daw’r sengl ddiweddaraf fel dilyniant i ‘Heaven Is No Feeling’ a ryddhawyd fel blas cyntaf o’r albwm newydd nôl ym mis Mehefin eleni.