Gig i recordio albwm byw Meinir Gwilym

Bydd Meinir Gwilym yn perfformio gig arbennig yng Nghaernarfon ganol mis Medi, gyda’r bwriad o recordio ei halbwm nesaf yn fyw yn y digwyddiad. 

Galeri Caernarfon fydd lleoliad y gig, a hynny ar 12 Medi. 

Yn ôl yr artist poblogaidd, bydd yn recordio detholiad o’i ‘goreuon’ yn y gig dan sylw, i’w rhyddhau ar ffurf albwm wedi hynny. 

“Gyda’i llais cynnes, geiriau teimladwy a chyfuniad unigryw o gerddoriaeth werinol, bop a hiraeth Cymreig, mae Meinir wedi swyno cynulleidfaoedd ers dros ugain mlynedd” meddai Y Galeri ar eu gwefan.  

“Rŵan, mae’n eich gwahodd chi i fod yn rhan o’r hud a lledrith — i ddal egni, emosiwn a chysylltiad perfformiad byw ar albwm newydd sbon.”

Yn ôl Meinir bydd enwau bandiau cefnogol ar gyfer y noson yn cael eu cyhoeddi’n fuan. 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gig ar wefan Galeri nawr.