CWRW yn derbyn enwebiad am wobr

Mae lleoliad cerddoriaeth CWRW yng Nghaerfyrddin wedi derbyn enwebiad ar gyfer gwobrau cerddoriaeth Radio Wigwam.

Gorsaf radio Brydeinig annibynnol ydy Radio Wigwam, ac maen nhw’n cynnal eu gwobrau blynyddol am y nawfed tro.

Mae CWRW wedi eu rhoi ar y rhestr hir ar gyfer categori ‘Pencampwr Lleoliad Llawr Gwlad’ (Grassroots Venue Champion) ynghyd â naw o leoliadau cerddoriaeth eraill.

Mae CWRW yn leoliad cyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac wedi bod yn ddylanwad mawr ar nifer o artistiaid a bandiau sydd wedi dod o ardal Caerfyrddin.

Y cyhoedd sy’n pleidleisio dros yr enillwyr ac mae’r bleidlais ar agor nawr

 

Gadael Ymateb