Mae’r wefan a zine cerddoriaeth annibynnol, God is in the TV, wedi cyhoeddi eu rhestr o albyms gorau’r flwyddyn.
Bill Cummings o Gaerdydd sydd wedi bod yn gyfrifol am God is in the TV ers sefydlu’r wefan yn 2003.
Mae’r wefan wedi rhoi sylw cyson i gerddoriaeth iaith Gymraeg, ac wrth iddynt gyhoeddi eu rhestr o 25 albwm gorau 2025, nid yw’n syndod gweld cwpl o recordiau hir Cymraeg wedi eu cynnwys.
Trydydd albwm Adwaith, ‘Solas’, a ryddhawyd fis Chwefror ydy’r record Gymraeg uchaf ar y rhestr eleni, gyda’r albwm 23 trac epig yn cyrraedd rhif 6.
Record hir Gruff Rhys, ‘Dim Probs’, ydy’r record Gymraeg arall ar y rhestr, pedwerydd albwm unigol uniaith Gymraeg canwr a gitarydd y Super Furry Animals, sy’n rhif 12.
Mae’r rhestr yn cynnwys albyms gan yr enwau mawrion Lilly Allen (‘West End Girl’), Self Esteem (‘A Complicated Woman’), Franz Ferdinand (‘The Human Fear’), Ash (‘Ad Astra’) a Stereolab (‘Instant Holograms On Metal Film’).
Y record hir sydd wedi cyrraedd rhif 1 yn y rhestr eleni ydy ‘WE WERE MADE PREY’ gan Kathryn Joseph sy’n cael ei ddisgrifio fel “darn anhygoel o gelf” a “campwaith” gan yr adolygwr Jim Auton.
Mae God is in the TV hefyd wedi cyhoeddi eu podlediad diwedd y flwyddyn sy’n trafod y rhestr, ynghyd â nifer o uchafbwyntiau cerddorol eraill y flwyddyn a fu.