Mae’r band dirgel o Fôn, Genod A5, wedi rhyddhau au hail albwm o ganeuon ar y llwyfannau digidol.
Ychydig a wyddwn am Genod A5 ond mae’n debyg bod y grŵp wedi bodoli ers peth amser dan label R-bennig yn Ynys Môn sy’n cael ei redeg gan y cynhyrchydd Jonny R. Y prif egni tu ôl y prosiect yn ôl y label ydy Emily K, sy’n ferch i’n cynhyrchydd.
Enw’r albwm newydd ydy Ein Emosh ac mae ar gael ar i’w ffrydio a lawr lwytho ar safle Bandcamp R-bennig.
Daw’r albwm yn dilyn rhyddhau’r sengl ‘Ciwt Fel y Gwynt’, a bwriad y prosiect ydy llenwi bwlch yn y genre k-pop yn y Gymraeg.
“Nid ydym yn gweld llawer o k-pop na phethau fel Dua Lipa, Sabrina Carpenter yn y Gymraeg felly dyna ein bwriad” meddai Emily K.
Band digidol yn unig ydy Genod A5 yn ôl Emily, a gallwn ni ddisgwyl gweld eu cerddoriaeth ar-lein ond nid ar y llwyfan amlycaf bellach, Spotify.
“Yn anffodus does unman i berfformio yn Ynys Môn. Oherwydd yn Wrecsam mae ganddyn nhw wythnos gerddoriaeth wych felly rydyn ni’n meddwl y byddwn ni’n creu byd Cymraeg Genod A5 ar-lein fel Asespa neu Kai.
“Rydyn ni hefyd yn meddwl bod Spotify yn rhwygo pawb felly rydyn ni’n hoffi Youtube, Bandcamp a Soundcloud yn fwy gan eu bod yn ymddangos yn onest.”
Mae’r albwm newydd ar safle Bandcamp R-bennig nawr.
Dyma’r teitl drac: