Cyhoeddi pedwerydd rhifyn o zine Klust

Mae rhifyn diweddaraf o zine cerddoriaeth Klust wedi’i gyhoeddi. 

Dyma’r pedwerydd rhifyn o’r cylchgrawn sydd wedi datblygu dan adain gwefan ddwy-ieithog Klust sy’n trafod cerddoriaeth Gymreig. 

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o’r zine atyniadol nôl ym mis Rhagfyr 2022, ac mae dau rifyn wedi ymddangos ers hynny.  

Owain Elidir Williams sy’n gyfrifol am y wefan sy’n rhoi sylw i gerddoriaeth newydd o Gymru trwy gyfrwng erthyglau Cymraeg a Saesneg.

Sefydlwyd y wefan ym mis Rhagfyr 2021 ac mae wedi bod yn cyhoeddi erthyglau’n weddol reolaidd ers hynny.

“Yn cynnig gobaith, goleuni a chynhesrwydd, mae pedwerydd rhifyn o Gylchgrawn Klust allan rŵan. Diolch i bawb am fod yn rhan” meddai Klust. 

Mae’r rhifyn newydd yn cynnwys gweithiau gwreiddiol, ffotograffiaeth unigryw a chyfweliadau arbennig, ac yn ymestyn dros 124 o dudalennau. 

Ymysg yr artistiaid sy’n ymddangos yn y rhifyn diweddaraf mae Sywel Nyw, Lleucu Non, Cyn Cwsg, Gwenno Morgan, Tokomololo, Siula a mwy. 

Mae modd archebu’r rhifyn newydd ar wefan Klust.