Fersiwn newydd o gân draddodiadol gan Fiona a Gorwel Owen

Mae Fiona a Gorwel Owen wedi rhyddhau eu sengl newydd ‘Hela’r Dryw’.

“Dyma fersiwn o’r gân draddodiadol lle mae ‘hela’, i ni, yn golygu mynd i’r coed efo camera, llyfr braslunio, neu beiriant recordio, nid rhwyd. Hir oes i’r dryw bach” meddai Gorwel. 

Bu’n flwyddyn gofiadwy i Gorwel Owen wrth iddo gael ei enwi’n enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar ar ddechrau’r flwyddyn. 

Yn fuan wedi hynny fe ryddhaodd ei sengl unigol ‘Craig y Llew’ ar ei label ei hun, sef yr enwog Recordiau OFN. 

Mae’r sengl ddiweddaraf allan ar y label hwnnw hefyd ac yn gydweithrediad rhwng Gorwel a’i wraig Fiona. Mae’r ddau wedi rhyddhau cerddoriaeth ar y cyd yn rheolaidd ers bod yn aelodau o’r band Plant Bach Ofnus gyda’i gilydd.  

I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo ‘Hela’r Dryw’ wedi’i gyhoeddi ar-lein hefyd. 

Dyma’r fideo: