Mae gwefan gerddoriaeth God is in The TV wedi datgelu’r rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Neutron’ eleni, sef eu gwrthbwynt hwy i Wobr Mercury.
Mae’r rhestr amgen o albyms wedi eu dewis o’r cynnyrch a ryddhawyd rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2025, ac mae’r 12 record wedi’u dewis gan eu golygyddion a gohebwyr cerddoriaeth.
Mae’ rhestr yn cynnwys tair record gan artistiaid fydd yn gyfarwydd i ddilynwyr y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes sef ‘Solas’ gan Adwaith, ‘Elan’ gan The Gentle Good a ‘Mill on the Hill’ gan Melin Melyn.
Rhestr fer lawn Gwobr Neutron 2025
‘Solas’ – Adwaith
‘Freak The Speaker’ – The Allergies
‘Drive to Goldenhammer’ – Divorce
‘Fuzzy Eggs, Please’ – The Eggmen Whoooooo
‘The Ordinary Life of a Magic Woman’ – Eska
‘Elan’ – The Gentle Good
‘WE WERE MADE PREY’ – Kathryn Joseph
‘Mill on The Hill’ – Melin Melyn
‘The World is Still Here, And So Are We’ – mclusky
‘Honeymilk & Heavy Weather’ – Rona Mac
‘The Orchestra Of Stories’ – Tom Hickox
‘Every Inch Of Earth Pulsates’ – W. H. Lung