I gyd-fynd â Gŵyl Sain, oedd yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni wrth i Sain nodi 50 mlynedd ers agor stiwdio recordio gyntaf Sain yn Gwernafalau, mae’r label wedi rhyddhau casgliad aml-gyfrannog newydd sy’n cynnwys traciau a recordiwyd yn stiwdios enwog y label dros yr hanner canrif ddiwethaf.
Cynhaliwyd yr ŵyl ddydd Sadwrn diwethaf, 27 Medi, ac mae’r casgliad newydd a ryddhawyd yn cynnwys 30 o ganeuon a recordiwyd yn stiwdios Sain rhwng 1975 a 2025.
Stiwdio Gwernafalau
Agorwyd stiwdio cyntaf Sain, Stiwdio Gwernafalau, ym mis Mehefin 1975, yn hen feudy fferm Gwernafalau ar gyrion pentref Llandwrog, tu allan i Gaernarfon.
Osborn a Glesni Jones oedd y perchnogion a’r rhent oedd y copi cyntaf o bob albwm i gael ei recordio yno. Cyn 1975 roedd recordiau label Sain yn cael eu recordio mewn amrywiol stiwdios yng Nghymru ac hefyd yn Llundain.
Un stiwdio a ddefnyddiwyd yn aml gan Sain cyn agor Gwernafalau oedd Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy. Pan recordiwyd albwm Heather Jones, ‘Mae’r Olwyn yn Troi’, yno yn 1974, gyda’r peiriannydd Kingsley Ward, roedd yn fenter ac yn arbrawf a baratodd y ffordd yn sicr at i Sain agor eu stiwdio eu hunain.
Sefydlwyd Gwernafalau ar batrwm Rockfield a bu Kingsley Ward yn gymorth mawr i’r ddau yn eu menter newydd o agor stiwdio yng Nghymru i’r label newydd, ifanc.
Yr albwm cyntaf i’w recordio yn Gwernafalau oedd albwm y canwr-gyfansoddwr o Geredigion, Morus Elfryn, ‘I Mehefin (ble bynnag y mae)’. Roedd Morus eisoes wedi bod yn aelod o’r bandiau Y Cwiltiaid a’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesgog, ac mae’r albwm yn cael ei edmygu’n fawr hyd heddiw gan lawer.
100 o recordiau hir
Ymysg yr albyms eraill i’w recordio yno ym mlynyddoedd cyntaf y stiwdio newydd roedd ‘Ail-Ddechra’ gan Brân, ‘Wa Macsbredar’ gan Mynediad am Ddim, ‘Teulu Yncl Sam’ gan Sidan, a ‘Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw’ gan Edward H Dafis. Bu Huw Jones yn peiriannu a chynhyrchu rhyw fymryn ar y cychwyn cyn i Hefin Elis gamu i’r adwy a gweithio ar sawl record ddylanwadol iawn o ran hanes cerddoriaeth gyfoes yn y Gymraeg.
Mae cynnwrf a swyn cyfnod Gwernafalau i’w deimlo drwy atgofion Sioned Mair o’r band Sidan.
“Dwi’n cofio gyrru i Gwernafalau yng nghar fy nhad – newydd basio fy mhrawf gyrru oeddwn i! Mi aethon ni’n pump yn Mini Caryl rhyw ddiwrnod hefyd” meddai Sioned Mair.
“Ar y pryd roedd y broses recordio yn fwy o ensemble lleisiol a dim llawer o ail recordio felly’r her oedd ei gael yn iawn y tro cynta, a phan ddigwyddai hynny, dwi dal yn cofio’r wefr….Roedden ni hefyd yn cael arbrofi yn lleisiol, oherwydd y dechnoleg newydd, gyda chaneuon fel ‘Ar Goll’ a ‘Dwi ddim isio’. Lot o sbort..roedden ni’n ifanc a dim byd yn amhosibl!”
Recordiwyd dros 100 o recordiau hir gan Sain yn Stiwdio Gwernafalau rhwng 1975 ac 1980, gan gynnwys perlau fel ‘Syrffio Mewn Cariad’ gan Endaf Emlyn, ‘Adlais’ gan Huw Jones, ‘Am Heddiw Mae ‘Nghân’ gan Eleri Llwyd a ‘Hen Wlad fy Nhadau’, Geraint Jarman.
Symud i Landwrog
Yn 1980, agorwyd stiwdio newydd Sain yn Llandwrog, lawr y ffordd o hen stiwdio Gwernafalau. Buddsoddodd Sain yn y stiwdio 24 trac, arloesol, gyda desg Harrison a dyma un o’r stiwdios mwyaf blaengar yn Ewrop ar y pryd. Dyma’r stiwdio bresennol yn Llandwrog. Yr albwm cyntaf i gael ei recordio yno oedd ‘Fflamau’r Ddraig’, Geraint Jarman.
Yn nwy flynedd gyntaf y stiwdio newydd recordiwyd hefyd albyms Leah Owen (‘Breuddwydio), ac Edward H ‘Plant y Fflam’. Roedd Sain wedi ehangu o ran genres cerddorol erbyn hyn hefyd ac yn recordio llawer iawn o gorau, unawdwyr a grwpiau ac artistiaid gwerin. Ymysg grwpiau ac artistiaid cyfoes yr 80au roedd Bwchadanas, Tecwyn Ifan, Dafydd Iwan, Y Ficar, Steve Eaves, Sobin a’r Smaeliaid a Meic Stevens.
Bu Emyr Rhys, Gethyn Evans, Annette Bryn Parri, Maartin Allcock, Tudur Morgan. Sion Alun Jones a Siwan Lisa Evans yn amlwg fel cynhyrchwyr o’r 90au ymlaen. Ychwanegwyd at y brif stiwdio hefyd – yn 1987 fe agorwyd Stiwdio 2, yn bennaf fel cyfleuster golygu ac ôl-gynhyrchu, ac yn 2013 agorwyd Stiwdio 3, sy’n cael ei ddefnyddio yn bennaf i gynhyrchu a dybio cartwnau a throsleisio.
Erbyn hyn mae’r feddalwedd recordio yn newid ac yn datblygu o hyd ac mae modd gwneud pethau heddiw, fu unwaith yn hynod o gymhleth, mewn un clic! Mae tîm newydd yn gyfrifol am redeg Stiwdio Sain – Aled Wyn Hughes, Ifan Emlyn Jones ac Osian Williams ac mae’r lle mor brysur ag erioed gyda recordio cynnyrch label Sain a llawer iawn o gynnyrch sawl label arall hefyd. Bydd y casgliad newydd, ‘Stiwdio Sain 50’, ar gael i’w ffrydio ar 26.09.25.
Cynhaliwyd Gŵyl Sain mewn partneriaeth â Menter Ty’n Llan gyda chefnogaeth Cymru Greadigol gan ddathlu casgliadau archif Sain ac artistiaid Stafell Sbâr Sain. Yn ogystal â diwrnod o gerddoriaeth byw, roedd nifer o sgyrsiau wrth ddathlu taith Sain ac edrych ymlaen at y bennod nesaf.