Datgelu manylion cyntaf Trawsnewid 2026

Mae trefnwyr yr ŵyl gerddorol a gynhelir yn Aberystwyth, Trawsnewid, wedi cyhoeddi manylion cyntaf y digwyddiad ar gyfer 2026. 

Wedi’i enwebu ar gyfer categori ‘Yr Ŵyl Newydd Orau’ yng Ngwobrau Gwyliau’r DU, bydd Trawnewid yn cael ei gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 6 a 7 Chwefror 2026. 

Wrth gadarnhau dyddiad yr ŵyl, mae’r trefnwyr hefyd wedi datgelu enwau’r don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio y tro hwn. 

Mae nifer o artistiaid Cymraeg ymysg yr enwau cyntaf i’w cyhoeddi gan gynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth, HMS Morris, Mali Haf, Malan, Sage Todz, Tai Haf Heb Drigolyn, Tristwch y Fenywod, a’r band lleol o Aberystwyth, Ynys.

Un o’r enwau cyffrous eraill fydd yn perfformio ydy A Guy Called Gerald, sy’n cael ei adnabod fel ‘Godfather of the beat’, ac oedd yn allweddol ar ddechrau’r symudiad ‘acid house’ Ewropeaidd. Fe ryddhaodd y record acid house gyntaf yn y DU sef y glasur o 1988, ‘Voodoo Ray’, tra bod ‘Pacific State’ yn un o ganeuon pwysicaf y symudiad a datblygiad cerddoriaeth jungl / drum n bass.

Enw arall sy’n dal y llygad ydy’r ddeuawd Gymreig The Bug Club, sydd wedi arwyddo’n ddiweddar gyda label Subpop Records, ac ar gefn ei seithfed albwm ‘Very Human Features’.

O ran yr artistiaid Cymraeg, bydd y band Cymraeg o Leeds, Tristwch y Fenywod, yn siŵr o ysgogi chwilfrydedd i lawer, tra bod enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2023, L E M F R E C K, yn enw arall sy’n dod â dŵr i’r dannedd. 

Un arall sydd wedi ennill y Wobr Gymreig ydy’r ferch leol, Georgia Ruth, a bydd hithau ar y llwyfan, ynghyd â’r band lleol arall, Ynys, a enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni. 

Mae Gŵyl Trawsnewid yn cynnig gwahoddiad i ddetholiad o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru i berfformio mewn gŵyl ddeuddydd gan greu profiad sain weledol unigryw. Y nod ydy arddangos y lleoliad, y rhanbarth ac wrth gwrs yr artisitiaid. 

Mae’r digwyddiad yn ffrwyth partneriaeth rhwng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a threfnwyr FOCUS Wales yn Wrecsam. 

“Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda’n ffrindiau yn FOCUS Wales eto i gyflwyno gŵyl Trawsnewid am y trydydd tro yn Chwefror 2026” meddai Louise Amery, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. 

“Mae’r lein-yp yn ffantastig, ac rydym yn edrych ymlaen at benwythnos hyfryd arall o gerddoriaeth a chelf weledol yma ar yr arfordir yn Aberystwyth.” 

 

Artistiaid Trawsnewid sydd wedi ei datgelu: A Guy Called Gerald, Adult DVD, Cowbois Rhos Botwnnog, Georgia Ruth, HMS Morris, Lemfreck, Mali Haf, Malan, Missing Persons Bureau, Mowbird, Resonate DJs, Sage Todz, Tai Haf Heb Drigolyn,The Bug Club, Tristwch y Fenywod, Xempa, Ynys

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl nawr.