Mae’r ŵyl newydd sy’n cael ei lleoli yng nghysgod castell Aberystwyth wedi cyhoeddi manylion amserlen y digwyddiad eleni.
Cynhaliwyd Gŵyl y Castell am y tro cyntaf ym mis Medi llynedd, ac eleni bydd yn digwydd eto ar ddydd Sadwrn 13 Medi, gyda’r digwyddiad yn dechrau am 10:30am.
Bydd nifer o eitemau lleol ar y llwyfan ar ddechrau’r diwrnod gan gynnwys y grŵp iwcalele, Iwcadwli, clocswyr Dawswyr Seithenyn a’r côr o Aber, Sgarmes.
Yna, am bedwar y prynhawn bydd nifer o artistiaid amlwg yn perfformio ar y llwyfan gan ddechrau gyda Buddug fydd yn cael ei dilyn gan Eden, Ynys a Candelas. Mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim.
