‘Diwedd’ ydy enw’r sengl gyntaf gan y prosiect newydd diddorol, Chwaer Fawr.
Prosiect unigol Mari Morgan ydy Chwaer Fawr, a’r sengl newydd ydy enw’r blas cyntaf o gerddoriaeth y prosiect ac mae allan ar label Klep Dim Trep.
Dim ond tamaid i aros pryd ydy’r trac newydd gan fod addewid o albwm cyntaf o’r un enw i ddilyn ar ffurf record feinyl, CD ac ar y llwyfannau digidol ar 27 Mehefin.
Bydd Mari Morgan enw a wyneb cyfarwydd i nifer ar ôl cyfnodau’n perfformio gyda Rogue Jones, Bitw a Saron cyn hyn.
Cafodd ‘Diwedd’, ei recordio’n araf bach gartref gyda ffrindiau, ar ôl blynyddoedd o chwarae ym mandiau pobl eraill. Y tro hwn, cawn gyfle i glywed ei llais hi.
Gyda chyfraniadau gan Llŷr Pari (Gwenno, Omaloma), Alex Morrison (Cate Le Bon, H. Hawkline), a Gwion Llewelyn (Aldous Harding, Villagers), ac wedi’i gynhyrchu gan Gruff ab Arwel (Bitw, Y Niwl), nid yw ‘Diwedd’ yn ceisio cysylltu’r dotiau ar eich rhan chi; mae’n gadael i bethau eistedd, yn gadael lle, yn gadael i’r broses ddangos.
Er mai ‘Diwedd’ yw teitl yr albwm, mae un peth yn sicr – mae Chwaer Fawr megis dechrau.