Tara Bandito yn rhyddhau Wallgo

Mae Tara Bandito wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Wallgo’.

Mae’r sengl ddiweddaraf yn fersiwn Gymraeg o’r sengl Saesneg, ‘Marginally Mad’, a ryddhawyd ganddi ar ddiwedd mis Ebrill

Dyw’r sengl newydd ar ôl llwyddiant ei sengl ddiwethaf, ‘Trw Nos’, a’i gwelodd yn cydweithio gyda Band Pres Llareggub. Cafodd y trac hwnnw ei ddewis fel Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru a’i gynnwys ar restr y ‘Welsh A-list’ ar BBC Radio Wales.

Gan ddilyn yr hyn sy’n draddodiadol bellach, mae fideo unigryw yn cyd-fynd a’r trac sydd wedi cael ei  gyfarwyddo gan Tara ei hun. 

Mae ‘Wallgo’, sy’n cael ei ryddhau drwy Recordiau Côsh, ar gael ar y llwyfannau digidol arferol.

Gyda’i naws sinematig, egni Tarantino, ac un o’r hooks mwyaf cofiadwy eleni, mae’r trac yma eisoes wedi creu argraff fawr mewn gigs a gwyliau yng Nghymru a thu hwnt, ac yn nodi cyfeiriad creadigol newydd i artist gyda hyd yn oed mwy o wirionedd, gonestrwydd a phresenoldeb. 

“Mae’r trac yn golygu perchnogi’r labeli ma’ bobol yn taflu atoch a’u troi yn arf” meddai Tara am y sengl newydd. 

“Os ma’ rywun isho galw fi’n wallgo’, fine, go for it. Na’i ddangos i chi’r grym y gall hynny rhoi i fi.” 

Ers rhyddhau ei sengl gyntaf Blerr yn 2022, mae Tara Bandito wedi torri llwybr unigryw wrth iddi greu gofod ble mae’r Gymraeg, Saesneg a Sansgrit yn eistedd ochr yn ochr â’r sitar, y delyn, synths a sŵn electroneg, gyda phob perfformiad byw yn cael ei drin fel sioe.

Daeth ei halbwm cyntaf yn 2023 â diwedd ar bennod bersonol o alaru wedi colli ei thad – El Bandito, y reslwr eiconig wnaeth deithio’r byd gyda Tara o’r foment y cafodd hi ei geni.

 ‘Wallgo’ yw’r cam cyntaf yn ei phennod newydd ac yn flas o’r hyn sydd i ddod.