‘Gwerthfawr’ ydy enw’r sengl unigol gyntaf gan Rose Datta, sef enillydd cystadleuaeth deledu Y Llais yn gynharach eleni.
Daw’r sengl wrth i’r rhaglen deledu recriwtio ar gyfer cyfres newydd, ac mae Rose yn annog pobl Cymru ymgeisio!
Mae rhyddhau’r sengl yn dynodi dechrau pennod newydd gyffrous yng ngyrfa gerddorol Rose Datta.
Mae ‘Gwerthfawr’ yn gân o berspectif merch sydd wedi canfod gwerth yn ei hun. Mae’n gân am rymuso eich hun fel unigolyn balch a chryf heb orfod dibynnu ar eraill.
Y gantores-gerddores Mared Williams a’r cynhyrchydd-gerddor Nate Williams sydd wedi ysgrifennu’r alaw a’r geiriau ar y cyd, fel rhan o wobr Rose am ennill Y Llais.
“Dwi’n rili gyffrous, mae wedi bod yn brofiad anhygoel o allu recordio a fi wedi bod yn awyddus i’w gael e allan a rhannu hefo pawb” meddai Rose.
“Fi’n rili falch bod yr amser ’na wedi cyrraedd nawr.
“O’dd y recordio yn wych, roedd hi’n neis cael gweithio gyda phobol mor anhygoel â Mared a Nate. Fy hoff fath o sgwennu ydi sgwennu o’r galon a baledi, fe gafodd y tri ohonom ni sgwrs er mwyn iddyn nhw adlewyrchu beth oeddwn i ei eisiau – mae nhw wedi taro’r hoelen ar ei phen gyda’r vibe! Mae hi’n gân relatable iawn.”
Cynhyrchiad Boom Cymru, rhan o ITV Studios ydy Y Llais, a fformat ITV Studios; y fersiwn Gymraeg o’r gyfres deledu fyd-eang, The Voice.
Darlledwyd y gyfres gyntaf o Y Llais ar S4C ar ddechrau 2025, ac fe gipiodd Rose y wobr yn y rownd derfynnol ar 30 Mawrth.
Mae bywyd wedi bod yn hynod brysur iddi ers y noson honno. Fe berfformiodd mewn noson i ddathlu Rownd Feirniadu Cyn-Derfynol ar gyfer cystadleuaeth yr Emmy® Rhyngwladol 2025 yng nghastell Caerdydd ddiwedd mis Mehefin. Ac yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn canu gyda’r FAW, yr Urdd ac S4C yn ystod ymgyrch Pencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025.
Mae Rose hefyd yn aelod o’r band ifanc Taran wrth gwrs ac fe ryddhaodd y band y sengl ‘Gobaith’ ym mis Mai, gyda mwy i ddod wedi i’r band fod yn recordio gyda Mei Gwynedd.
Ar ben popeth, bydd Rose yn dechrau yn y brifysgol yn Llundain fis Medi.
“Mae haf prysur o’m blaen cyn dechrau yn Trinity, Llundain” eglura’r gantores.
“Mae’r band Taran, yn chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Maes B, a dwi’n edrych ymlaen cael gweld pa ddrysau newydd all agor wedi rhyddhau’r sengl ‘Gwerthfawr’.”