Albwm newydd KEYS

Mae’r band profiadol iawn, KEYS, wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf. 

‘Acid Communism’ ydy enw’r record hir newydd ganddynt a dyma eu halbwm mwyaf beiddgar ac eang hyd yma yn ôl y band – dogfen gyfoethog o greadigrwydd ar y cyd, archwilio sain, a chwilfrydedd athronyddol. 

Yn cael ei ryddhau ddydd Gwener 18 Gorffennaf ar Libertino, mae’r albwm yn cymryd ei deitl ac ysbrydoliaeth gan y damcaniaethwr diwylliannol Mark Fisher – bu i’w syniadau am lawenydd a dychymyg ar y cyd daro tant gyda’r band.

“Mae ACID yn symbol o chwarae creadigol ac arbrofi, tra bod COMMUNISM yn cyfeirio at y nerth sydd i’w ganfod mewn (comm)unism,” meddai prif leisydd y band, Matthew Evans. 

Mewn oes ddigidol lle mae’r rhyngrwyd yn aml yn dathlu unigoliaeth, mae ‘Acid Communism’ yn ddathliad o gydweithio, cydberthynas, ac ysbryd DIY sy’n uno pobl trwy gerddoriaeth.

Gan asio egni byw, amrwd Jerry Garcia gyda chynhesrwydd lo-fi eu halbwm o’r cyfnod clo, ‘Homeschooling’, cymerodd y band ddull hybrid o recordio – gan ddechrau llawer o’r traciau ar dap 8-trac cyn eu gorffen yn ddigidol. 

Y canlyniad yw sain sy’n ddigymell ac yn fwriadol, gan symud yn hyderus rhwng psych-pop niwlog, piano myfyriol, a gweadau atmosfferig.

Mae’r sengl ddwbl ‘Your Shoes / The Greatest Joke of All’ yn cynnig blas o amrywiaeth emosiynol yr albwm – o egni prysur y cyntaf i dynerwch biano’r ail. 

Gydag ‘Acid Communism’, mae KEYS yn cynnig mwy na dim ond record – maen nhw’n cynnig lle i fyfyrio, ailgysylltu, a dychmygu gyda’n gilydd. 

Mae’r albwm allan ers dydd Gwener diwethaf, 18 Gorffennaf ar label Recordiau Libertino.